Soffa Edwinsford - brodwaith gwych yn cael mis yn y rhewgell
Yn 1998 prynodd Amgueddfa Cymru gelfi o ystâd Edwinsford, ger Talyllychau, Llandeilo. Soffa frodiog unigryw o 1845 yw'r darn mwyaf, a'r mwyaf ysblennydd o'r rhain. Bu'r gwaith cadwraeth arni'n ddiddorol iawn ac yn sialens a oedd yn cynnwys datgysylltu, ail-adeiladu a rhewi'r darn am fis.
Mae'r soffa'n cynnwys nifer o sgwariau o wlân a sidan wedi'u brodio'n unigol a'u haddurno ag edeifion metel a gleiniau, yn enghreifftiau gwreiddiol o gynlluniau gwaith-gwlân Berlin. Ffurfia'r sgwariau bedwar panel ar wahân gyda mowldinau pren cerfiedig o amgylch yr ochr isaf a phaneli sgrôl cerfiedig dros flaenau'r breichiau.
Cadw'r soffa
Ar yr olwg gyntaf, roedd yn amlwg y byddai angen gwneud llawer o waith atgyweirio cyn arddangos y soffa, gan ei fod yn fudr, yn flêr ac wedi treulio. Roedd nifer o'r gwniadau wedi rhwygo a dinistriwyd llawer o'r mân-frodwaith gan bla o wyfynod. Er mwyn cadw pob un o'r paneli gwaith canfas yn iawn, bu'n rhaid eu tynnu allan o'r fframwaith.
Tynnwyd y mowldinau'n hawdd, ond yn hytrach na'r dull clustogi arferol, gwnaethpwyd y soffa o bedair rhan wedi'u clustogi'n unigol a'u gorchuddio â'r paneli gwaith canfas cyn eu sgriwio a'u bolltio at ei gilydd. Bu'n rhaid tynnu tua 300 o daciau'n ofalus heb rwygo'r gwaith cynfas — er eu bod eisoes wedi gwneud tyllau rhydlyd yn y defnydd.
Soffa wedi'i haddurno gan westeion
Daeth stori ddifyr iawn i'r amlwg yn ystod y broses ddatgysylltu. Wrth i'r taciau gael eu tynnu i ffwrdd, fe ddechreuodd labeli papur syrthio allan o du ôl i'r gweithiau canfas, pob un ohonynt ag enw gwahanol arno. Roedd yr enwau'n dangos pwy oedd wedi brodio pob sgwâr. Mae'n debyg mai ymwelwyr ag Edwinsford frodiodd y sgwariau, a bod y soffa wedi'i chynllunio i arddangos eu gwaith.
Wedi cofnodi'r labeli yn ofalus, golchwyd pob sgwâr o waith canfas gyda thoddiad golchi a thoddyddion i gyfateb â'r llifynnau oedd yn bresennol. Cynhaliwyd pob panel ar liain di-liw er mwyn cryfhau'r defnydd a gwneud y soffa orffenedig yn fwy sefydlog. Gosodwyd rhwyd neilon mân o amgylch yr ochrau treuliedig.
Mis yn y rhewgell
Yn dilyn pryder fod yna wyau gwyfynod yn dal yn fyw yn y fframwaith, lapiwyd pob rhan mewn dwy haen o bolythen i'w selio, cyn cael eu rhewi am fis.
Rhoi'r soffa yn ôl at ei gilydd
Bu'n rhaid canfod dull o ail-gysylltu'r paneli canfas wedi'u glanhau. Roedd yn bwysig peidio rhoi staplau drwy'r gwaith canfas yn uniongyrchol, a chyfyngu ar y nifer o staplau fyddai'n cael eu rhoi yn y fframwaith pren a oedd eisoes wedi'i ddifrodi. Yr oedd yr un mor bwysig bod modd tynnu'r paneli'n rhydd heb eu difrodi, pe bai angen gwneud hynny yn y dyfodol.
I gyflawni hyn, staplwyd tâp cotwm i'r fframiau pren ar hyd llinellau tyllau'r taciau gwreiddiol. Gosodwyd staplau bob tua 15cm i greu sylfaen gadarn y gellid gwnïo'r paneli'n sownd iddi, gan ddefnyddio nodwydd grom. Bu'n rhaid pwytho ymylon mewnol y breichiau a'r cefn yn gyntaf, cyn sgriwio a bolltio'r rhannau hyn yn ôl i'w safle. Yna roedd modd pwytho'r ymylon allanol i'w lle.
Ar ôl iddynt gael eu trin, ail-osodwyd rhannau eraill y soffa gan ddefnyddio'r sgriwiau a'r hoelion gwreiddiol lle bo hynny'n bosibl. Cafodd y labeli papur eu trin, fel bo modd eu hastudio a'u harddangos yn y dyfodol.
Mae'r soffa'n cael ei harddangos yng Nghastell Sain Ffagan.