Catrin o Ferain
Mae bywyd Catrin o Ferain yn llawn dirgelwch. Roedd gan yr aeres gyfoethog hon o Sir Ddinbych waed Tuduraidd, ac roedd yn perthyn o bell i'r Frenhines Elisabeth I.
Ei hanes hi a'i gŵyr niferus oedd un o brif straeon rhamant y gogledd. Cafodd chwech o blant a thros dri deg o wyrion ac wyresau oedd i gyd yn rhan o deuluoedd cyfoethocaf y wlad. Yn sgil hyn cafodd y teitl 'Mam Cymru'.
Yn oes Catrin, roedd pobl yn priodi am arian, tir a phŵer, nid cariad. Fel aeres gyfoethog o dras frenhinol, ystyriwyd Catrin yn dipyn o fachiad! Priododd bedair gwaith gyda Chymry enwog, ac roedd yn perthyn i deuluoedd cyfoethocaf, pwysicaf y gogledd.
Byddai pobl gyfoethog yn aml yn cael rhywun i beintio eu portreadau er mwyn gwneud sioe fawr o'u cyfoeth a'u statws cymdeithasol. Ond yn yr oes grefyddol hon, roedd hi'r un mor bwysig ymddangos yn ddiymhongar o flaen Duw.
Priodolwyd y portread hwn i'r artist a swyddog llywodraethol Iseldiraidd Adriaen van Cronenburgh, a beintiodd sawl portread o uchelwyr Ffrisaidd. Mae ei waith yn dangos y dechneg peintio olew Iseldiraidd soffistigedig.
Pan fu farw ail ŵr Cathryn dramor, dychwelodd i Sir Ddinbych gyda'r portread hwn, a bu'r llun yno am bron i bedwar can mlynedd.
Ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd, fe'i gwerthwyd a'i gludo i'r Iseldiroedd. Yno, fe'i gwerthwyd i gasglwr a ddaeth â'r gwaith nôl i Brydain. Yn y pen-draw fe'i prynwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru a gyflwynodd y portread i ni ym 1957.
sylw - (1)
t