O dan yr paent yn yr ail ganrif ar pymtheg Peintio ag olew ar gynfas yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg O dan yr haenau o baent: yr ail ganrif ar bymtheg Mae'r cynfas hwn yn dangos y deunyddiau a'r technegau cyffredin a ddatblygodd artistiaid yn yr Eidal yn ystod y Dadeni. Mae rhai ohonynt yn dal i gael eu defnyddio heddiw. Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy 1. Cynfas estynedig 2. Seis glud wedi'i baratoi 3. Paent preimio olew a thanbeintio 4. Haenau o baent olew 5. Peintio â farnais 1. Cynfas estynedig Dyma gynfas garw o liain. Caiff ei ymestyn yn dynn dros ffrâm bren a'i gadw yn ei le gyda hoelion metel. Drwy ddefnyddio cynfas, gallai arlunwyr greu peintiadau mwy. Mae'n rhatach, yn ysgafnach ac yn haws ei symud na phanel pren. 2. Seis glud wedi'i baratoi Caiff haen denau o seis glud wedi'i wneud o groen anifeiliaid a d?r ei beintio ar y wyneb. Mae'n atal y cynfas rhag amsugno olew, a fyddai’n gwneud i'r paent preimio sychu a throi'n fregus. 3. Paent preimio olew a thanbeintio Gwnaed y paent preimio tenau a hyblyg hwn o bigment coch wedi'i gymysgu ag olew. Mae'r paent preimio'n atal y cynfas rhag amsugno'r paent. Yma, mae'r arlunydd wedi tynnu braslun o'r dyluniad ar ben y paent preimio a thanbeintio rhai rhannau, fel yr awyr. 4. Haenau o baent olew Gwnaed y darlun hwn drwy ddefnyddio paent olew. Fe welwch fod hyn yn caniatáu i arlunwyr ddefnyddio strociau brwsh mwy a chyfuno lliwiau. Mae'r goleubwyntio yn drwchus a di-draidd. Edrychwch sut mae'r paent preimio'n effeithio ar naws y peintiad, yn arbennig yn y cysgodion. 5. Peintio â farnais Gadewir i'r paent olew sychu am o leiaf blwyddyn cyn brwsio haen denau o farnais clir arno. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, dechreuodd arlunwyr wneud farnais o resin coed wedi toddi mewn tyrpant. Mae'n amddiffyn arwynebedd y paent ac yn gwneud y lliwiau'n haws eu gweld. Related Features Erthygl Celf yn yr Eidal 1500-1700: Y Dadeni 28 Medi 2010 Erthygl Dod yn artist yn y ddeunawfed ganrif 8 Hydref 2010 Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.