Llareggub: Darluniau Peter Blake ar gyfer Under Milk Wood Rhodri Viney 'Llareggub: Darluniau Peter Blake ar gyfer Under Milk Wood' oedd arddangosfa a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cymru rhwng 23 Tachwedd 2013 - 16 Mawrth 2014. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys portreadau mewn pensil du a gwyn ar bapur arlliwiedig, lluniau dyfrlliw o olygfeydd breuddwydiol y ddrama, darluniau ‘naratif a lleoliadol’ mewn amrywiol gyfryngau gan gynnwys collage, a ffotograffau a dynnwyd gan Blake ei hun yn Nhalacharn yn y 1970au. Dyma Syr Peter Blake yn trafod ei ddulliau, ei dechneg a’i berthynas ag Under Milk Wood yn y ffilmiau hyn a wnaed yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa. Maent i’w gweld ar YouTube, gydag isdeitlau Cymraeg: Under Milk Wood | Portraeadau | Collage | Breddwydion Under Milk Wood yn Entiharmon Editions Peter Blake ar Wicipedia (Saesneg) Peter Blake yn y Tate (Saesneg) Under Milk Wood ar Wicipedia Dylan Thomas ar Wicipedia 'Dylan' yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.