Hanes Trist Esyllwg
Yn y Rhondda Fawr ar Ddydd Gwener y Groglith, Ebrill y 10fed 1903, cynhaliwyd pumed Eisteddfod Gadeiriol Blaenclydach yng Nghapel Gosen y pentref.
Roedd 17 yn cystadlu am wobr o gadair (‘darn eithriadol o hardd o gelf’ yn ôl y Rhondda Leader) a £1.11.6d. Rhoddwyd y gadair gan Mr Joseph Jones o Flaenclydach. Y dasg oedd cyfansoddi 120 llinell ar y testun ‘Adgof’ (hen sillafiad o atgof) a'r beirniad oedd Ap Ionawr o Lansamlet.
Enillydd y gystadleuaeth oedd ‘Esyllwg’ (hen enw ar dde-ddwyrain Cymru) – enw barddol Thomas Jones, glöwr 30 oed o Aberpennar. Cyhoeddodd yr Aberdare Leader fod bardd cadeiriog cyntaf Aberpennar yn ‘ŵr ifanc gyda gyrfa addawol’, cyn mynd ymlaen i sôn fod bwriad i ‘ailadrodd seremoni’r cadeirio yn Neuadd Bethania (Aberpennar) yn ystod y mis nesaf’. Yn drist iawn, ni chynhaliwyd y seremoni honno fyth.
Ganwyd tad Thomas, David Thomas Jones, ym Mrynaman ym 1846, a daeth i weithio yng Nglofa Navigation Nixon yn Aberpennar. Dilynodd ‘Esyllwg’ ei dad i’r lofa ond roedd hefyd yn adnabyddus fel athro dosbarthiadau Cymraeg yn Adran Wyddoniaeth a Chelf, Ysgol Barhad Aberpennar. Roedd hefyd yn aelod ffyddlon o Gapel Annibynwyr Cymraeg Bethania ac yn chwarae gyda Band Llinynnol Caegarw.
Damwain Esyllwg
Ar Fai y 4ydd, gwta fis wedi’i lwyddiant yn yr Eisteddfod, roedd Thomas yn gweithio ar wythïen 2’9” Glofa Ddofn Dyffryn pan laddwyd ef mewn cwymp. Mae Adroddiad Arolygydd Glofeydd Ei Fawrhydi ar gyfer 1903 yn disgrifio’r digwyddiad fel hyn:
“Fall of roof: no.42, Thomas Jones, 30, collier, 4 May 1903, 12.30pm, Deep Duffryn Colliery, Glamorgan, Nixon’s Navigation Co Ltd. “At face, cliff, 10 ft. by 4ft 8 ins. by 44 ins. thick. Deceased wanted to get this stone down, so commenced knocking the props out from under it, and, when he knocked out the last, the fall occurred. Its falling so suddenly was due to a “false slip” in the roof, which could not be seen previous to the fall. Two feet nine seam.”
Cyhoeddwyd y newyddion yn yr Aberdare Leader dan y pennawd: “Esyllwg’s Sad Fate”, a disgrifiwyd Thomas fel ‘pêr ganiedydd Pennar’. Daw’r erthygl i ben fel hyn: “The blighting of a budding genius by the grim hand of death is always distressing, but the tragic circumstances make the demise of our friend doubly pathetic. His relatives are the objects of the most sincere sympathy.”
Ym 1904 cyflwynodd chwaer Thomas, Claudia, garreg goffa iddo ar wal allanol capel newydd Soar ar Stryd Fawr, Aberpennar. Mae’r capel yn dal i sefyll, er ei fod wedi cau, ond mae’r garreg wedi gwisgo cymaint nes ei bod bron yn amhosibl i’w darllen.
Mae’r gadair nawr yn rhan o gasgliad glofaol Amgueddfa Cymru.
sylw - (1)