Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Mwyngloddio Metel Carreg chwarela, Randolph, Wisconsin Roedd y gweithwyr Cymreig yn enwog am eu harbenigedd ym maes mwyngloddio. Yn ogystal â glo, roedden nhw'n gallu cloddio am aur, haearn, plwm a chopr. Wrth i ffniau agor mewn gwledydd oedd yn datblygu, roedd mwynwyr o Gymru'n arwain y ffordd. Yn ogystal â'r mwynwyr, Cymry oedd rhai o reolwyr a pheirianwyr mwyngloddio mwyaf profadol y byd. Roedden nhw'n ennill cyfogau da oherwydd y galw mawr am eu sgiliau. O Gernyw y daeth y mwyafrif o fwynwyr y gweithfeydd metel yng ngorllewin UDA, gyda mwynwyr o Gymru'n ail da iddynt. Datblygwyd rhai o fwyngloddiau metel India a De Affrica gan Gymry ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y ddwy wlad yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ar y pryd, ac oherwydd y dirywiad yn y diwydiannau plwm yng Nghymru, roedd llawer o'r gweithwyr yn chwilio am gyfeoedd newydd. Yn eu hymgais i ddod o hyd i fwyn copr, agorodd rhai cwmnïau Cymreig fwyngloddiau newydd yn Newfoundland, Canada a Cape Colony, De Affrica. Watkin Cynlais Price Ganed Watkin yng Nghwmllynfell tua 1839. Ymfudodd fel glöwr i Scranton, Pennsylvania i gychwyn, ond erbyn 1860 roedd wedi symud i California ac wedyn i Golumbia Brydeinig adeg y rhuthr am aur. Bu'n enillydd cyson yn eisteddfodau'r maes aur ac roedd yn arwain côr Cymreig. Yn ôl y cofnodion, roedd yn dal i chwilio am aur ym 1887. Related Features Erthygl Gweithio Dramor - Ymfudo o Gymru 9 Chwefror 2010 Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.