Cymry'r Antarctig

Stori'r Is-swyddog Edgar Evans o Rhosili yng Ngŵyr yw un o'r mwyaf teimladwy i godi o Alldaith Antarctig Brydeinig Scott ym 1910-13. Evans, ag yntau'n un o'r tîm o bump i gyrraedd Pegwn y De gyda Scott ei hun, oedd y cyntaf i farw ar y daith yn ôl o'r Pegwn.

Yma byddwn ni'n ymchwilio i gysylltiadau Cymreig eraill â'r Antarctig — daearegwr o Sain Ffagan a sŵolegydd o Saint-y-brid a benodwyd yn ddiweddarach yn Gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Sir Tannat William Edgeworth David (1858-1934)

Sir Tannat William Edgeworth David (1858-1934)

Daearegwr o Gymru ym Mhegwn Magnetig y De

Ganwyd y daearegwr T.W. Edgeworth David ym 1858 yn Sain Ffagan yn fab i reithor. Astudiodd ddyddodion rhewlifol yn ne Cymru cyn symud i Awstralia ym 1882 i ymuno ag Arolwg Daearegol New South Wales. Ym 1891 cafodd ei benodi'n Athro Daeareg ym Mhrifysgol Sydney gan ddod yn un o wyddonwyr enwocaf Awstralia.

Ymunodd David ag alldaith Ernest Shackleton, Nimrod, ym 1907. Ym mis Mawrth 1908 yn 50 oed, arweiniodd esgyniad cyntaf Mynydd Erebus, llosgfynydd byw ar Ynys Ross. Ef, ynghyd â Douglas Mawson ac Alistair Mackay oedd y cyntaf, ym mis Ionawr 1909, i gyrraedd rhanbarth Pegwn Magnetig y De. Cymerodd y siwrnai 2,028 cilomedr 122 o ddiwrnodau ac mae'n un o'r teithiau hiraf erioed ar sled heb gefnogaeth.

Llwyddodd i berswadio llywodraeth Awstralia i gyfrannu tuag at alldaith Scott ym 1910 ac fe'i cynorthwyodd i benodi daearegwyr o blith ei fyfyrwyr. Enillodd y Polar Medal ym 1910 a derbyniodd radd anrhydedd Prifysgol Cymru ym 1921.

Dilwyn John ac Ymchwil y Discovery

Dychwelodd llong Antarctig gyntaf Scott, Discovery, i'r cyfandir ym 1925 ar y cyntaf o fordeithiau ymchwil gwyddonol yng Nghefnfor y De i astudio bioleg y Môr ac effaith hela morfilod yn fasnachol ar boblogaeth morfilod. Parhaodd yr ymchwil hwn, a gaiff ei adnabod fel Ymchwil y Discovery, tan 1951.

Roedd David Dilwyn John (1901-95), o Saint-y-brid yn Sir Forgannwg, yn sŵolegydd fu ar dair o'r mordeithiau yma rhwng 1925 a 1935. Gweithiai'r gyntaf, ar Discovery, rhwng 1925 a 1927 yn y moroedd o amgylch De Georgia a'r Penrhyn Antarctig. Wedi hynny, treuliodd ddwy flynedd ar yr RRS William Scoresby ar alldaith marcio morfilod o amgylch De Georgia. Ym 1913-33 ef oedd Prif Wyddonydd Discovery II ar y gylchfordaith aeaf gyntaf o'r Antarctig.

Ym 1935 ymunodd John â staff yr Amgueddfa Brydeinig (Hanes Natur) fel Curadur Cynorthwyol Sŵoleg. Gadawodd ym 1948 i fod yn Gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a hynny hyd at 1968. Enillodd y Polar Medal ym 1941.

Dilwyn John

Dilwyn John

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Janet Stanley
2 Mawrth 2019, 14:20
Not forgetting Perce Blackborrow who stowed away on the Endurance... Shackleton threatened he would be the first to be eaten! He lost a few toes on Elephant Island due to frostbite...
Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru
1 Awst 2016, 11:33

Hi Catherine,

Thanks for your kind comment, I will pass it on to the article's author, who I'm sure will be happy to hear you enjoyed it.

Best

Sara
Digital Team

catherine Holman
31 Gorffennaf 2016, 08:20

Thanks for adding this, as I do have a copy of the David family (above), now I can understand where it came from