Cymru a'r Rhyfeloedd Byd: Dyddiaduron Kate Rowlands

Mae'r cyfri twitter @DyddiadurKate yn trydar dyddlyfrau Kate Rowlands, Sarnau. Ganrif yn ddiweddarach, mae ei chofnodion o 1915 yn rhoi golwg i ni ar fywyd yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Daeth y dyddiadur i feddiant Sain Ffagan yn 1969, pan aethant allan i gymunedau gwahanol i recordio hanes leol pobl Cymru, yn eu geiriau eu hunain.

Mae Dyddiadur 1915 Kate Rowlands, yn ddarlun cynnil a chyfoethog o fywyd yng nghefn gwlad Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n rhoi cip i ni o dasgau bob dydd, enwau caeau a ffermydd, cymeriadau lleol, tafodiaeth ac arferion y cartref a'r capel.

Darllenwch y dyddiadur ar twitter, neu gweld mwy am gymeriadau'r dyddiadur.

Rhagor am Kate 'Kitty' Rowlands

Bywyd Cynnar

Ganed Kate yn y Brymbo, ger Wrecsam, yn 1892. Roedd ei mam, Alice Jane, yn wreiddiol o’r Hendre, Cefnddwysarn. Bu farw ei thad – gweithiwr yn y diwydiant dur – pan roedd hi’n naw mis oed. Wedi hynny, dychwelodd ei mam weddw at ei theulu yng Nghefnddwysarn. Mae’n amlwg i rieni ei mam ddylanwadu’n fawr arni. Mewn cyfweliad hanes llafar â'r Amgueddfa mae’n dweud mai "y nhw oedd y canllawie gathon ni gychwyn arnyn nhw."

Tair blynedd yn ddiweddarach, mae’i mam yn ailbriodi ag Ellis Roberts Ellis. Hyd y gwyddom, dyma’r Ellis sy’n cael ei grybwyll yn y dyddiadur. Tua 1887, pan roedd Kate yn bum mlwydd oed, symudodd y teulu bach i ffermio i ardal Llantisilio, ger Llangollen. Dychwelodd y tri i’r Sarnau tua chwe mlynedd yn ddiweddarach – i fferm Tyhen. Dyma leoliad y dyddiadur.

Gwaith ar y tir - ac yn y tŷ

A hithe’n unig blentyn, gadawodd Kate yr ysgol yn 14 mlwydd oed i helpu ei rhieni wrth eu gwaith. Mae’n debyg mai fferm fach oedd Tyhen – rhy fach i gyflogi dynion.

“Mi gollodd nhad a mam eu iechyd i radde. Buodd hynny’n groes fawr i mi gael gyrru mlaen efo addysg ynde. Rhaid i mi fod adre ynde, ’da chi’n gweld… Dipyn o bopeth, jack of all trade ynde. O’n i’n gorfod helpu llawer iawn allan ynde, efo ceffyle a rwbeth felly ynde. Twmo’r popdy mawr i grasu bara, a chorddi fel bydde amser yno ynde, ryw ddwywaith yr wsos ynde.”

Hanes Llafar

Rhoddodd Kate Rowlands ei dyddiadur i'r Amgueddfa, pan ddaeth Minwel Tibbott a Lyn Davies i'w chyfweld yn y 1960au. Oherwydd gwaith diflino curaduron cynnar yr Amgueddfa, mae casgliad eang yn Sain Ffagan sy'n ymwneud â hanes merched - gellir pori gwybodaeth amdanynt ar dudalennau Hanes Llafar Merched Cymru.

Yn ogystal â dyddiadur 1915, rhoddodd Kate ddyddiadur arall i'r Amgueddfa - sef cofnod o'i bywyd yn 1946. Mae modd darllen y dyddiadur hwnnw hefyd ar twitter, a'i archwilio ar flog yr amgueddfa.

Kate Rowlands - Bywyd Cynnar
Kate Rowlands - Wythnos ar y Fferm
Kate Rowlands - Chwarae Steddfod a Gadael Ysgol

Yn ogystal â rhannu hanesion lleol ardal y Sarnau, roedd y dyddiadur yn taro goleuni ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar gefn gwlad Cymru. Darllenwch hanes Kate a chymeriadau'r ardal ar flog Dyddiadur Kate.

Carcharorion Rhyfel Fron Goch

"Erbyn Ebrill 1915, roedd sgil effeithiau’r Rhyfel Mawr i’w gweld a’u teimlo ar lawr gwlad Meirionnydd. Nepell o gartref Kate a’i theulu, fe agorwyd gwersyll i garcharorion rhyfel ar gyn safle distylldy whisgi..."

[gweld mwy]

Arferion Nadolig

"Ro’n i wedi edrych ymlaen cael darllen am baratoadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac wedi bod yn dyfalu p’un â’i gŵydd yntau asen o gig eidion fyddai’r wledd? Pwy fyddai’n galw heibio?"

[gweld mwy]

 

Tomi'r Hendre a'r Ffrynt

"Yr wyf yn hynod o hapus a digon o fwyd ac mewn iechyd rhagorol ac yn mynd yn dew ac yn gryf. Nid wyf yn med[d]wl y byd[d] yn rhaid imi byth fynd i’r front... Gyrwch fy nghyllell boced a fy spectol [yn] fuan."

[gweld mwy]

Alcohol a Dirwest

"Soniodd Lloyd George am ‘the lure of the drink’ a dweud bod y ddiod gadarn yn gwneud mwy o’r difrod i Brydain na holl longau tanfor yr Almaen..."

[gweld mwy]

Gallwch lawrlwytho fersiwn electronic o'r dyddiadur yma:

E-lyfr Dyddiadur Kate (PDF)
 
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.