Ar ddechrau'r cyfnod clo, dechreuodd cerrig crynion wedi'u haddurno ymddangos o dan feinciau mewn parciau, ar bolion ffensys, a hyd yn oed mewn pentyrrau ar y traeth. Roedd yn rhan o gynnydd mewn pobl yn addurno, cuddio a chwilio am gerrig crynion i’w darganfod, a’u cuddio eto yn rhywle arall. Mae gan nifer o’r cerrig neges negeseuon ar y gwaelod, cyfeitiad dudalen Facebook efallai lle gallai'r canfyddwr bostio hunlun gyda'r garreg. Yn ystod y cyfnod clo, pan fu'n rhaid i deuluoedd ymarfer corff yn lleol, addurnwyd a cuddiwdy llawer mwy o gerrig crynion. Daeth yn rhywbeth i deuluoedd ei wneud wrth fynd am dro, gan ddewis cerrig addas i fynd adre gyda nhw i baentio. Pan fyddai'r paent wedi sychu, roedd yn rhaid penderfynu ble i'w cuddio. Yn ystod y cyfnod clo, trodd paentiadau syml o Minions, gwenyn a buchod coch cwta, yn enfysau, yn logo'r GIG, neu'n negeseuon syml o obaith.

Cerrig crynion

Cerrig crynion ar bostyn gât yn Sili, Bro Morgannwg

Dyw addurno cerrig crynion yn ddim byd newydd. Dechreuodd pobl greu celf cludadwy yn ystod y cyfnod Palaeolithig Uwch, yr un cyfnod ag y ddechreuodd pobl baentio murluniau ar waliau ogofâu. Dechreuodd y bobl fodern gynnar fynegi eu hunain drwy gelf, yn union fel y byddwn ni heddiw. Erbyn 12,000 CC, wedi’r Oes Iâ ddiwethaf, mae tystiolaeth o gerrig crynion wedi'u paentio ymhlith canfyddiadau mewn ogofâu, gan gynnwys Mas d'Azil, Ffrainc. Roedd cerrig crynion gydag ysgythriadau yn gyffredin hefyd. Yn aml, byddai cerrig yn cael eu cerfio a'u hysgythru gydag offer cerrig cornfaen a fflint wedi'i naddu, a gan nad yw carreg yn dirywio goroesodd llawer o’r addurniadau.

Yng Nghymru, canfuwyd y cerrig crynion addurnedig hynaf wrth gloddio'r safle Mesolithig yn Rhuddlan, Sir Ddinbych. Yma, canfuwyd chwe charreg gron yn dyddio i oddeutu 7,500 CC. Ar bob carreg mae rhychiadau neu linellau endoredig, sy'n ymddangos fel dyluniad ar hap ar rai, ond sy'n creu siapiau amlwg ar eraill. Ar y garreg gron isod mae basged bysgota wiail, sy'n edrych yn debyg i fasgedi pysgod a ganfuwyd mewn gwaddod dyfrlawn yn Nenmarc.

Carreg gron gyda llun basged bysgod o gloddfa yn Rhuddlan, Sir Ddinbych

Carreg gron gyda llun basged bysgod o gloddfa yn Rhuddlan, Sir Ddinbych

Ar garreg gron addurnedig arall o’r un gloddfa yn Rhuddlan, mae darlun allai fod yn berson – ffigwr yn gwisgo mwclis gyda stumog neu groth oddi tano.

Ffiguryn benywaidd? Carreg gron a ganfuwyd yn Rhuddlan, Sir Ddinbych

Ffiguryn benywaidd? Carreg gron a ganfuwyd yn Rhuddlan, Sir Ddinbych

Beth oedd diben cerrig crynion addurnedig? Ai addurniadau hardd oedden nhw? Neu eitemau diddorol a adawyd ym mythynnod eu perchnogion? A oedd ystyr ddyfnach iddynt?

Os edrychwn ni ar gerrig crynion wedi'u paentio heddiw, gallwn weld yn aml fod ganddynt eu hystyr a'u symboliaeth eu hunain. Mae rhai yn amlwg i’r paentiwr yn unig, ac eraill yn amlwg i bawb.

Cerrig Crynion wedi'u paentio yng Nghas-gwent, Sir Fynwy

Cerrig Crynion wedi'u paentio yng Nghas-gwent, Sir Fynwy

Yn ystod pandemig Covid-19, mae'r enfys wedi bod yn ddelwedd eiconig. Yn draddodiadol, mae'r enfys yn symbol o heddwch a gobaith – ar ôl glaw daw’r haul i dywynnu eto. Mae plant wedi paentio enfysau a’u gosod yn ffenestri tai ledled y byd. Gellid ystyried eu lluniau ar gerrig crynion fel mynegiant arall o'r awydd hwn i ledu gobaith.

Defnyddir cerrig crynion i gyfleu negeseuon eraill hefyd. Mae rhai negeseuon amlwg, fel y garreg isod a welwyd yng Nghas-gwent ddiwrnod cyn i dafarndai a chaffis â byrddau tu allan ail-agor eu drysau.

Cerrig Crynion wedi'u paentio yng Nghas-gwent, Sir Fynwy

Cerrig Crynion wedi'u paentio yng Nghas-gwent, Sir Fynwy

Mae'r ymatebion i Holiadur Casglu Covid Amgueddfa Cymru yn cynnwys sawl cyfeiriad at baentio ac addurno cerrig crynion fel gweithgaredd sydd wedi cadw pobl yn brysur. Dywedodd Katie o Feisgyn ei bod '...wedi bod yn paentio cerrig i'w cuddio, er mwyn i eraill gael dod o hyd iddyn nhw.' Soniodd ateb arall am y rhes o dros 500 o gerrig crynion sy'n croesi pont dros Afon Gwy.

Mae rhai trefi a phentrefi wedi creu nadroedd gobaith gyda cherrig crynion addurnedig, fel yng Nghas-gwent, Sir Fynwy, lle gofynnwyd i’r trigolion baentio carreg gron i'w hychwanegu at y llinell. Yn Fochrwyd, Powys, mae llinell o dros 500 o gerrig crynion yn croesi'r bont dros Afon Gwy. Gellid ystyried hyn fel ffordd o dywys ceir, beicwyr neu gerddwyr yn ddiogel dros yr afon, ac mae'n drosiad i'n taith ddiogel ni i ochr arall yr argyfwng Covid hwn.

Neidr cerrig crynion yng Nghas-gwent, Sir Fynwy

Neidr cerrig crynion yng Nghas-gwent, Sir Fynwy

Neidr cerrig crynion yng Nghas-gwent, Sir Fynwy

Neidr cerrig crynion yng Nghas-gwent, Sir Fynwy

Yn sgil hyn gellir edrych o’r newydd ar y cerrig crynion Mesolithig yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Oedd y cerrig crynion yma’n cyfleu neges sydd ar goll erbyn hyn? Fyddai’r cerrig yn dynodi llwybr pwysig at ardal bysgota, yn symbol o obaith i fenyw mewn genedigaeth neu hwb i’w ffrwythlondeb?

Dyfalu yw llawer o hyn, ond mae gweld cerrig crynion dros y misoedd diwethaf wedi cynnig gobaith i lawer, gan ein hatgoffa y daw eto haul ar fryn a bydd bywyd yn mynd yn ei flaen.

Dr Elizabeth Walker

Prif Guradur: Casgliadau a Mynediad
Gweld Proffil

Gadael sylw