Cadeiriau Arwisgo Tywysog Cymru
Dyluniwyd y Gadair gan yr Arglwydd Snowdon ar gyfer arwisgiad y Tywysog Charles ar 1 Gorffennaf 1969. Cafodd 4,600 o'r cadeiriau hyn eu gwneud ar gyfer y gwesteion yng Nghastell Caernarfon.
Cafodd y gadair ei defnyddio gan Iorwerth Howells, cyfarwyddwr addysg Sir Gaerfyrddin. Roedd yn un o gynrychiolwyr Sir Gaerfyrddin yn yr arwisgiad. Mae'r ffrâm wedi'i gwneud o bren ffawydd, y sedd a'r cefn o bren haenog gydag argaen pren onnen. Mae'r gadair wedi'i lliwio'n loywgoch ac wedi'i selio gyda lacr asid clir. Cafodd ei gwneud yn ffatrïoedd Remploy yn Nhrefforest a Wrecsam.
Mae'r ffabrig wedi'i wneud o wlanen goch Gymreig a wnaed gan David Lewis Cyf, Melin Cambrian, Dre-fach Felindre - cartref Amgueddfa Wlân Cymru erbyn hyn. Cafodd 2,650 llath o ddefnydd ei gynhyrchu am 18/- y llath. Mae plu arfbais Tywysog Cymru wedi'u boglynnu mewn eurddalen gan Ferndale Book Company. Wedi'r seremoni cafodd y cadeiriau eu gwerthu am £12.00 yr un, gyda'r gwahoddedigion yn cael y cynnig cyntaf cyn iddynt fynd ar werth i'r cyhoedd.
sylw - (3)