Merched Caneri
Rhyfel
Ar 4 Awst 1914, goresgynnwyd Gwlad Belg gan yr Almaen. Cyhoeddodd Prydain ei bod yn mynd i ryfel. Yn ystod y penwythnos cyntaf hwnnw, aeth cant o ddynion yr awr ati i gofrestru i ymuno â’r lluoedd arfog. Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd dros bum miliwn o ddynion wedi ymuno â’r fyddin.
Gyda’r holl bwyslais ar ddyletswydd ar faes y gad, roedd ffatrïoedd gwledydd Prydain yn brin o weithwyr medrus. Cafodd menywod a arferai wneud swyddi isel neu ddomestig eu recriwtio i weithio ym myd diwydiant.
Er bod prinder dynion i weithio yn y ffatrïoedd, cafodd menywod eu cyhuddo o ddwyn swyddi oddi ar y rhai na allent fynd i ymladd. Roedd menywod hefyd yn weithlu rhatach gan eu bod nhw’n cael llai o gyflog am wneud yr un gwaith.
Prinder Sieliau
Newidiodd natur rhyfela yn aruthrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyn hynny, cefnogi milwyr fu swyddogaeth magnelaeth, ond bellach dyna oedd y prif rym dinistriol.
Erbyn 1915, roedd prinder sieliau ac arfau. Cafodd senedd San Steffan ei gorfodi i fabwysiadu Polisi Arfau Gwladol, a phenodwyd David Lloyd George yn Weinidog Arfau Rhyfel. Roedd y polisi hwn yn rheoli cyflogau, oriau ac amodau gwaith mewn ffatrïoedd arfau rhyfel, a hefyd yn gorfodi ffatrïoedd i gyflogi mwy o fenywod er mwyn ateb y galw.
Y ffatrïoedd arfau rhyfel oedd prif gyflogwr menywod ar y pryd, gyda thros 900,000 yn cael eu cyflogi gan y diwydiant. Er eu bod yn gwneud yr un gwaith â’r dynion, dim ond hanner y cyflog oeddent yn ei dderbyn.
Erbyn mis Mehefin 1917, roedd y ffatrïoedd a gyflogai fenywod yn cynhyrchu dros 50 miliwn o sieliau’r flwyddyn, ac erbyn diwedd y rhyfel, roedd byddin Prydain wedi saethu tua 170 miliwn ohonynt.
Gwaith Peryglus
Wedi i’r rhyfel gael ei gyhoeddi, sylweddolodd sawl cwmni fod cyfle i gynyddu gwerthiant. Aeth cwmnïau peirianneg a chynhyrchu metelau lleol ati i sefydlu Pwyllgorau Arfau Lleol. Sefydlwyd Ffatrïoedd Sieliau Gwladol ar hyd a lled y wlad.
Cafodd adeiladau cyfredol eu defnyddio gan Ffatrïoedd Sieliau Gwladol – gan gynnwys adeilad yn Grangetown, Caerdydd a ddefnyddid cyn hynny i nyddu cywarch ac edau; adeilad cwmni rheilffordd Ffestiniog ym Mhorthmadog; a ffatri Baldwins yng Nglandw ˆr, Abertawe. Roedd pob un yn cynhyrchu sieliau a phennau sieliau bach a mawr.
Roedd yn waith peryglus dros ben, gyda ffrwydradau’n bosibl ar unrhyw adeg. Bu sawl achos o farwolaeth ac anafiadau difrifol.
Pen-bre a’r Merched Caneri
Roedd cwmni Nobels Explosives yn berchen ar hen ffatri ddynameit ym Mhen-bre ger Porth Tywyn. Cawsant ganiatâd gan y llywodraeth i agor un o’r ffatrïoedd TNT (trinitrotolwen) pwrpasol cyntaf ym 1914. Cafodd y safle ei feddiannu gan y Weinyddiaeth Arfau Rhyfel a’i ailenwi’n Ffatri Ffrwydron Gwladol Pen-bre erbyn 1917, cyn cau ar ddiwedd y rhyfel.
Roedd y gwaith yn galed a pheryglus tu hwnt, a TNT yn sylwedd gwenwynig iawn. Roedd yn cynnwys asid picrig oedd yn troi crwyn y menywod oedd yn gweithio gydag ef yn felyn llachar gan roi’r llysenw ‘merched caneri’ iddyn nhw.
Byddai’r menywod yn cael llaeth i’w yfed i geisio gwrthsefyll effeithiau’r cyfansoddion peryglus hyn. Gallent arwain at fethiant yr afu, anaemia a niwed i'r system imiwnedd. Bu farw tua 400 o fenywod yn sgil dod i gysylltiad â gormod o TNT yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Pêl-droed y Munitionettes
Dechreuodd menywod gymryd rhan mewn campau fel pêl-droed a chriced yn ystod y rhyfel hefyd. Sefydlwyd timau pêl-droed mewn ffatrïoedd arfau ar hyd a lled Prydain. Roedd y llywodraeth yn annog menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon er lles eu hiechyd ac i’w helpu i gadw’n heini er mwyn gweithio yn y ffatrïoedd.
Roedd gogledd-ddwyrain Lloegr yn un o'r prif ganolfannau pêl-droed i ferched. Roedd tîm Blythe Spartans Ladies FC yn ddiguro, a sgoriodd eu hymosodwr, Bella Raey, 33 o goliau mewn un tymor. Cystadlodd 30 o dimau am y Munitionettes’ Cup ym 1918.
Roedd y gamp mor boblogaidd nes bod timau wedi’u sefydlu yn y rhan fwyaf o drefi’r ffatrïoedd hyn erbyn diwedd y rhyfel. Heidiodd tua 53,000 o bobl i Barc Goodison ar ddydd San Steffan 1920, i wylio gêm rhwng St Helens Ladies a Dick, Kerr Ladies.
Pan ddaeth y dynion nôl adref o’r ffrynt, caeodd y ffatrïoedd arfau rhyfel a chwalodd timau’r menywod. Ym 1921, cafodd menywod eu gwahardd rhag chwarae ar unrhyw un o gaeau'r FA, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, er bod eu gemau nhw lawn mor boblogaidd â phêl-droed i ddynion. Gyda’r dynion yn dychwelyd i fyd y bêl gron, doedd dim croeso mwyach i fenywod chwarae.
Roedd rhaid aros tan 1971 cyn i’r Gymdeithas ildio a chaniatáu i fenywod chwarae ar eu meysydd unwaith eto.
Cydraddoldeb
Ym 1915, lluniodd Pwyllgor Gweithwyr Rhyfel y Menywod restr o hawliau yr oeddent am eu cael, gan gynnwys yr hawl i hyfforddiant, aelodaeth o undeb llafur a chyflog cyfartal am waith cyfartal.
Roedd menywod oedd mewn swyddi a arferai gael eu gwneud gan ddynion yn cael llawer llai o gyflog, ac yn flin iawn am hynny wrth reswm. Roedd dynion yn poeni hefyd y byddai’r menywod yn parhau i wneud y gwaith hwn ar ôl diwedd y rhyfel, ac y byddai pawb yn derbyn cyflogau is.
Ym 1918, cynhaliwyd y streic gyntaf dros gyflog cyfartal yn y Deyrnas Unedig gan fenywod oedd yn gweithio ar fysiau a thramiau Llundain. Roedd y streic yn llwyddiannus, a bu’n rhaid i’r llywodraeth ystyried a ddylai’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fod yn berthnasol i bob maes ym myd diwydiant.
Aeth y Cabinet Rhyfel ati i sefydlu pwyllgor ym 1917 i ystyried cydraddoldeb yn y gweithle. Ni chyhoeddwyd yr adroddiad tan 1919. Daeth i gasgliad nad oedd unrhyw wahaniaeth rhwng lefelau cynhyrchiant nag ansawdd gwaith dynion a menywod. Ond parhau wnaeth y syniad fod menywod yn llai abl na dynion.
Ffrwydrad ym Mhen-bre
Pan ddaeth y rhyfel i ben, defnyddiwyd ffatri arfau Pen-bre, Sir Gaerfyrddin, i ddatgymalu sieliau yn hytrach na’u cynhyrchu. Ar 18 Tachwedd 1918, lladdwyd Mary Fitzmaurice (36 oed), Jane Jenkins (21 oed) ac Edith Ellen Copham (19 oed) mewn ffrwydrad. Anafwyd dwy arall hefyd
Ar noson y ddamwain angheuol, roedd y menywod yn trin math gwahanol o siel na’r arfer. Cafodd Jane ei lladd gan y ffrwydrad yn syth. Bu farw Mary ac Edith yn yr ysbyty’r noson honno.
Merched o Abertawe oedden nhw i gyd, a chafodd Edith a Mary eu claddu ym mynwent Dan-y-graig yn nwyrain y dref. Bu gorymdaith angladdol enfawr o’r Stryd Fawr gyda band pres yn ei harwain a 500 o ferched y ffatri yn dilyn, oll yn eu lifrai gwaith. Cafwyd teyrnged yn y South Wales Weekly Post, ‘[the women] had died as surely in the service of their country as any on the battlefield’ a nodwyd bod y dorf wedi saliwtio wrth i’r hers basio.
Cafodd miliwn a mwy o sieliau eu datgymalu ym Mhen-bre heb unrhyw ddamweiniau pellach.
sylw - (3)
Thanks S Jacobs
I spoke to you during Andrew Vacarri exhibition and you kindly gave me your card.i am hoping that you will be able to visit our afternoon club and talk on a subject,I am quite interested in the Canary Girls.The group is called the Nifty Wednesday Club we meet on a Wednesday afternoon in the Owain Glyndwr Community Centre in Waunceirch Neath speakers normally start at 2pm and finish at 2.45.due to time constraints.
Thank you, Chris Stephens