Siop y Teiliwr
Roedd stryd fawr tref ddiwydiannol yng Nghymru yn nechrau’r 20fed ganrif yn edrych yn wahanol iawn i’r stryd fawr fodern – byddai yno siopau unigryw, arbenigol yn hytrach na siopau mawr yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau. Roedd siopau defnydd yn rhan annatod o’r stryd fawr, yn gwerthu brethyn a ffabrigau fesul llathen. Cai dillad eu gwneud yn y cartref neu gan deiliwr lleol a cai rholiau o ddefnydd eu torri i faint penodol y cwsmer. Gyda degawdau eto cyn gwawrio’r oes fasgynhyrchu dillad, roedd galw cyson am ffabrig a dillad yn lleol.
Gyda datblygiad y diwydiannau glo a haearn yn ne Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gadawodd nifer fawr o bobl gefn gwlad Cymru i chwilio am waith. Dyna oedd hanes y gŵr ifanc Emlyn Davies, a anwyd yng Nghastellnewydd Emlyn ond a symudodd i Ddowlais i weithio fel cynorthwy-ydd yn siop J.S Davies Drapers. Ym 1898 agorodd ei siop ddefnydd ei hun. Gwerthu lliain fyddai Emlyn Davies yn bennaf a prynai’r mwyafrif o’i stoc o Felin Cambrian Dre-fach. Byddai David Lewis, perchennog Melin Cambrian, yn teithio i’r cymoedd i gasglu archebion am liain a’r defnydd yn cael ei gludo ar y trên i Ddowlais o stesion Henllan. Byddai’r lliain yn cael ei droi’n grysau a dillad isaf i weithwyr y pyllau glo a’r gweithfeydd haearn lleol.
Byddai gweithwyr y pyllau a’r gweithfeydd haearn yn gwisgo lliain Cymreig am ei fod yn treulio’n hynod dda ac yn wych am amsugno chwys diwrnod caled o waith. Roeddent yn gweithio mewn amodau anodd ac roedd tân yn berygl beunyddiol. Golygai nodweddion gwrth-dân naturiol gwlân taw lliain Cymreig oedd y defnydd delfrydol tan y 1920au.
Prynu ar gredyd fyddai cwsmeriaid Emlyn Davies gan gymryd eu nwyddau a thalu cyfran o’u bil bob wythnos. Byddai’n teithio i drefi cyfagos i gasglu archebion gan ddosbarthu’r nwyddau yr wythnos ganlynol, ac roedd ganddo hefyd stondin ym marchnad wythnosol Aberhonddu.
Roedd busnes y siopau dillad a lliain yn ffynnu tan y 1920au. Arweiniodd cyfuniad o ddatblygiadau yn y ddegawd honno at ddirywiad y busnes; dillad isaf wedi’i weu gan gynhyrchwyr hosanau dwyrain canolbarth Lloegr; cotwm rhad wedi’i brintio a dillad parod wedi’i fasgynhyrchu. Gyda streiciau, cynnwrf gwleidyddol a’r dirwasgiad mawr yn y cymoedd diwydiannol ar ben hyn oll, caeodd nifer o siopau dillad. Roedd busnes Emlyn Davies ar ei anterth ym 1920 ond bu’n dirywio’n gyson tan ei farw ym 1937. Wedi hynny, ei ferch Miriam fu’n rhedeg y busnes gan werthu cotwm a dillad wedi’i fasgynhyrchu cyn i’r busnes gau ar ei hymddeoliad ym 1962. Miriam