Matricsau Seliau
Sut lofnod sydd gennych chi? Ai sgribl annealladwy, gwaith celf cywrain, neu ddim ond fersiwn frysiog o’ch enw?
Mae llofnod pawb yn unigryw ac yn bersonol iddyn nhw. Mae’n perthyn i chi ac i neb arall. Pan fyddwch yn llofnodi rhywbeth, mae’n dangos eich bod yn ei gymeradwyo ac yn cytuno iddo ac mae’n rhaid cael llofnod cyn y gellir gweithredu ar bethau fel contractau, gweithredoedd eiddo, sieciau a thystysgrifau.
Ond beth os na allwch ysgrifennu gan eich bod yn byw mewn oes pryd mai dim ond ychydig o bobl sy’n gallu darllen ac ysgrifennu? Beth os ydych mewn swydd bwysig – fel esgob neu abad – lle bo’r grym yn perthyn i’r swydd yn hytrach nag i chi’n bersonol?
Beth yw sêl?
Am gannoedd o flynyddoedd yn y gorffennol, yn lle llofnod, roedd pobl yn defnyddio seliau – dyfeisiau personol ac arnynt lun fel rheol, a rhyw fath o arysgrif neu arwyddair neilltuol i’r perchennog yn aml – i ddangos ei fod yn dyst i wahanol ddogfennau neu’n cytuno iddynt.
Yn y byd Rhufeinig, sêl-fodrwyau ac ynddynt intaglio – gem a llun wedi’i ysgythru arni – oedd y rhan fwyaf o seliau. Yn nes ymlaen, yn y cyfnod canoloesol, roeddent yn tueddu i fod ar ffurf darnau metel fflat crwn neu hirgrwn, â chlustiau neu ddarnau siâp côn i afael ynddynt.
Roedd patrwm ac arysgrif neilltuol wedi’u hysgythru ar wyneb gwastad y ddwy ffurf er mwyn ffurfio dei, neu fatrics. Byddai'r matrics yn cael ei wasgu ar gwyr lliw gan greu sêl a fyddai, yn aml, yn cael ei gosod ar ddogfen â llinyn neu stribed o femrwn.
Mae dolenni ar gefnau matricsau seliau canoloesol yn awgrymu eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel neu eu cario ar linynnau neu gadwyni.
Mae gan Amgueddfa Cymru ac amgueddfeydd lleol ledled y wlad lawer o enghreifftiau o fatricsau seliau yn eu casgliadau. Fodd bynnag, mae'r erthygl hon yn ystyried rhai o’r cannoedd a ddarganfuwyd gan aelodau’r cyhoedd a’u cofnodi yng nghronfa ddata’r Cynllun Henebion Cludadwy (PAS). Pobl â datgelyddion metel a ddarganfu'r rhan fwyaf ohonynt ac maent mewn casgliadau preifat erbyn hyn, ar wahân i nifer fechan a aeth i ddwylo amgueddfeydd trwy'r broses drysor.
Yn y cyfnod canoloesol y câi seliau eu defnyddio fwyaf yng Nghymru, yn enwedig rhwng y 12fed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Gwyddom am lawer llai o enghreifftiau o gyfnod y Tuduriaid ac wedyn, er eu bod yn dal i gael eu defnyddio at rai dibenion tan heddiw.
Sut maent yn edrych?
Gwnaed llawer o fatricsau seliau o fetelau cyffredin fel plwm neu aloi plwm ac aloi copr fel efydd. Nid yw aelodau'r cyhoedd yn dod ar draws enghreifftiau wedi'u gwneud o arian mor aml ond mae llawer o'r rhai arian sydd yn cael eu darganfod yn mynd i gasgliadau amgueddfeydd ar ôl i grwner ddatgan eu bod yn drysor.
Rhai crwn yw'r rhan fwyaf ond nid pob un. Yn aml, byddai gan fenywod a chlerigwyr fatricsau seliau siâp hirgrwn pigfain a gwyddom am enghreifftiau siâp tarian, siâp diemwnt a rhai chweochrog.
Gan amlaf, gwelir rhyw fath o lun neu batrwm wedi'i ysgythru yng nghanol seliau canoloesol ac arysgrif o gwmpas yr ymyl yn datgelu pwy oedd perchennog y sêl - unigolyn neu sefydliad. Yn aml, dim ond llun oedd ar seliau diweddarach.
Ble cânt eu darganfod?
Mae matricsau seliau wedi’u darganfod ledled Cymru ond maent yn fwy cyffredin mewn rhai ardaloedd na’i gilydd. Ym Mro Morgannwg y darganfuwyd y nifer fwyaf, ac yna Sir Benfro, Sir Fynwy, Wrecsam a Sir y Fflint. Ar wahân i un enghraifft yr un o Bont-y-clun a Chaerffili, ni chofnodwyd bod yr un matrics seliau wedi'i ddarganfod yng Nghymoedd y De, nac yng Nghastell-nedd Port Talbot, Ceredigion na Gwynedd.
Os edrychwch ar fap gwrthrychau Hel Trysor, fe welwch fod y patrwm hwn yn cyfateb yn eithaf agos i'r ardaloedd lle darganfuwyd eitemau archaeolegol eraill o lawer o wahanol fathau, o’r Oes Efydd gynnar i’r ddeunawfed ganrif.
Pwy oedd yn eu defnyddio?
Byddai angen sêl ar lawer o wahanol bobl, o'r brenin i dirfeddianwyr bach a masnachwyr – unrhyw un, mewn gwirionedd, oedd ag angen unrhyw fath o ddogfennau busnes neu gyfreithiol. Roedd gan unigolion seliau personol, ond roedd cyrff fel corfforaethau trefi, cymdeithasau masnachol ac urddau crefyddol, eglwysi cadeiriol, abatai a mynachlogydd yn defnyddio seliau hefyd.
Roedd gan lawer o bobl uchel eu statws factrics sêl o ansawdd da. Gallai fod wedi'i wneud o arian yn lle metel cyffredin, ac arno ddyfais a ddewiswyd yn ofalus wedi'i ysgythru gan grefftwr medrus. Byddai pobl lai cyfoethog yn aml yn prynu rhai 'oddi ar y silff', o blwm neu efydd, gyda phatrwm parod wedi’i dorri’n eithaf amrwd. Roedd yna seliau ar gyfer pob poced!
Arysgrifau
Mae'r arysgrif (neu’r arwyddair) yn rhedeg o gwmpas ymyl allanol y matrics. Gan amlaf, mae'n dilyn fformiwla safonol sy'n cynnwys enw'r perchennog, fel ‘S. FRATRIS BALDVINI ’(Sêl y Brawd Baldwin), ar enghraifft a ddarganfuwyd ym Mhorthcawl yn 2008. Yma, mae’r gair Lladin 'Sigillum ’(sêl) wedi’i dalfyrru i'r llythyren 'S’. Roedd hyn yn gyffredin er mwyn cadw lle ar gyfer elfen bwysicach – yr enw ei hun. Roedd gan Abatai Margam a Chastell-nedd dir yn ardal Porthcawl, felly mae'n debygol bod Baldwin yn fynach yn un o'r abatai hyn.
Yn aml, caiff yr enwau eu talfyrru a gall hyn eu gwneud yn anodd eu deall, yn enwedig os yw’r matrics wedi cyrydu neu wedi’i ddifrodi. Edrychwyd ar tua 150 o fatricsau ar gyfer yr erthygl hon ac roedd arysgrifau 59 ohonynt yn annarllenadwy neu ddim ond yn rhannol ddarllenadwy.
Yn achlysurol, gwelir arysgrif ar ffurf arwyddair crefyddol neu seciwlar, yn lle enw. Darganfuwyd sêl â'r arwyddair crefyddol Lladin 'CREDE MICHI' (Cred ynof i) ym Mhen-marc, Bro Morgannwg yn 2011, ac fe gofnodwyd 'I CRACKE NUTS' ar sêl a ddarganfuwyd ym Mhen-hw, ger Casnewydd, yn 2014. Weithiau credir bod ystyr rywiol i'r arysgrif hon, felly er bod diben difrifol i seliau, gallent fod yn chwareus hefyd!
Ar seliau a ddarganfuwyd yn Lloegr, gwelir arysgrifau mewn Saesneg, Ffrangeg Eingl-Normanaidd a Lladin – y tair brif iaith a ddefnyddid yno yn y Canol Oesoedd. Yng Nghymru, fodd bynnag, gellir ychwanegu Cymraeg at y rhestr ac mae’n fwy cyffredin o lawer na Saesneg na Ffrangeg. Ymddengys naill ai ar ffurf enwau personol, fel Ieuan neu Gwenllian, neu fel y gair ‘ap’ sy’n golygu ‘mab’ mewn enwau. Mae’r ffurf fenywaidd gyfatebol ‘ferch/verch’ mewn enwau yn brinnach o lawer.
Roedd rhai pobl ag enwau Cymraeg yn defnyddio’r gair Lladin ‘filius’ yn lle ‘ap’. Fel rheol, câi hwn ei fyrhau i ‘fil’ neu ‘f’, fel ar sêl MADOCI F MADOCI (Madog fab Madog), a ddarganfuwyd ger Wrecsam.
Yn yr Oesoedd Canol, roedd iaith ac enwau yn un o’r ffyrdd a ddefnyddiai pobl i gyfleu eu hunaniaeth bersonol ac felly mae gwybodaeth fel hyn yn dystiolaeth werthfawr i haneswyr sy’n astudio’r gymdeithas yng Nghymru’r Oesoedd Canol.
Daeth llawer o Eingl-Normaniaid i gyfaneddu rhai rhannau o Gymru ar ôl cyrchoedd i oresgyn y wlad o ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg hyd ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Weithiau, mae seliau'n dystiolaeth o gyfnewidiadau diwylliannol rhwng y Cymry brodorol a’r mewnfudwyr. Roedd gan Wenpelian (Wenllian) Kaperot, y daethpwyd o hyd i'w sêl yn Eglwys Fair y Mynydd (Bro Morgannwg) yn 2005, enw cyntaf Cymraeg â chyfenw Saesneg. Ai Cymraes a oedd yn briod â Sais oedd hi, neu a oedd hi'n dod o deulu o ymsefydlwyr a oedd wedi mabwysiadu enwau brodorol ac wedi dechrau meddwl amdanynt eu hunain fel Cymry?
Yn aml, dywed y llyfrau hanes wrthym fod y Cymry brodorol wedi cael eu trin fel dinasyddion eilradd ar ôl y goresgyniadau Eingl-Normanaidd, ond mae tystiolaeth y seliau hyn yn dangos i ni ei bod yn rhaid bod nifer sylweddol yn ddigon cyfoethog i brynu a gwerthu tir a chynnal busnesau cyfreithiol o wahanol fathau.
Yn aml, er ein bod yn gallu darllen enwau perchnogion y seliau, mae’n dal yn anodd eu cysylltu ag unigolyn sy'n ymddangos mewn rhan arall o'r cofnod hanesyddol. Weithiau, fodd bynnag, down ar draws seliau y gellir eu cysylltu â theuluoedd y gwyddom amdanynt. Roedd teulu Caeriw yn dirfeddianwyr pwysig yn Sir Benfro trwy gydol y cyfnod canoloesol, a darganfuwyd sêl un ohonyn nhw - DAVID DE CARREV (David de Carew) - yn Carew Cheriton yn 2009. Mae siâp hirgrwn pigfain y sêl hon a'r ddelweddaeth grefyddol arni yn awgrymu efallai bod David yn fab iau, nad oedd yn etifedd, ac a aeth i'r eglwys.
Fel teulu Caeriw, roedd y teulu Turberville yn arglwyddi grymus Eingl-Normanaidd, a ddaeth i fyw yng Nghastell Coety, ger y man lle mae Pen-y-bont ar Ogwr erbyn hyn. Darganfuwyd sêl Reginald de Turberville (REGINALDI DE TURBERVILL) yn Saint-y-brid gerllaw yn 2010. Roedd teulu de Reigny yn gymdogion agos i’r de Turbervilles ac fe ddarganfuwyd sêl RICAR’ DE REIGNI (Richard de Reigny) ger Trelales, Pen-y-bont, yn 2018.
Patrymau
Motiff canolog y sêl yw’r nodwedd amlycaf, a gall amrywio o ddyluniad syml, amrwd i un cymhleth, soffistigedig.
Y motiff mwyaf cyffredin ar seliau o Gymru a gofnodwyd gyda PAS yw amrywiad ar seren â sawl pigyn, a elwir weithiau’n flodyn hefyd. Mae sêl blwm IEWANI APIERWE (Ieuan ap Iorwerth mae’n fwy na thebyg), a ddarganfuwyd yn Maerun, Casnewydd, yn 2017, a sêl WILLIEI FIL ROBERTII (William fab Robert), o’r un cyfnod – sef y drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg, a ddarganfuwyd ym Merthyr Dyfan, ger y Barri, yn 2013, yn enghreifftiau nodweddiadol o’r ffurf hon.
Weithiau, mae patrymau canol seliau mor debyg i’w gilydd fel ei bod yn debygol iawn eu bod yn dod o’r un ffynhonnell neu fod y patrwm yn un cyffredin iawn, a llawer ohonynt wedi’u cynhyrchu.
Cymharwch, er enghraifft sêl RICARDI MADENVEI (Richard Madenvey) o’r ddeuddegfed ganrif neu’r drydedd ar ddeg, a ganfuwyd yn 2015, ag enghraifft o sêl wedi torri a ddarganfuwyd y flwyddyn ganlynol. Mae arnynt lun o flodyn, sydd bron yn union yr un fath, â chwe phetal lydan a chylch yn y canol. Mae’n edrych yn debyg iawn i genhinen Bedr. Mae’n ddiddorol nodi eu bod wedi’u darganfod o fewn saith milltir i’w gilydd, ar Benrhyn Gŵyr.
Bron mor gyffredin â’r seren/blodyn oedd gwahanol batrymau ar ffurf croes. Yn wir, mae’r ddau grŵp hyn yn debyg iawn i’w gilydd oherwydd mae i lawer o’r croesau fwy na phedair braich a gellir eu dehongli fel patrymau sêr neu flodau.
Un enghraifft sydd wedi cadw’n dda yw sêl Ieuan ap Gronw, a ddarganfuwyd ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf, yn 2013. Mae amrywiad ychydig yn fwy cain o’r patrwm hwn ar sêl Wenllian Kaperot, y soniwyd amdani uchod, a gwelir fersiwn fwy sylfaenol ar sêl Leuel (Llewelyn?) fab Ithael, a ddarganfuwyd yn Nhyddewi, Sir Benfro, yn 2011.
Roedd delweddau defosiynol, yn cynnwys seintiau, noddwyr a lluniau crefyddol eraill yn boblogaidd. Darganfuwyd enghraifft nodweddiadol yn Sain Nicolas, Bro Morgannwg, yn 2006, yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae’n dangos y Forwyn Fair a’r Baban Iesu, a ffigwr bach o glerigwr yn gweddïo o dan ganopi wrth ei thraed. Mae llawer o’r enghreifftiau hyn ar ffurf hirgrwn, pigfain, sy'n awgrymu bod hynny'n ffurf boblogaidd ar gyfer clerigwyr.
Ar sêl gron y Brawd Baldwin, y sonnir amdani uchod, gwelir Oen a Baner, sef symbol Sant Ioan Fedyddiwr. Roedd gan rywun, o’r enw Winton neu Wilton o bosib, sêl â llun sant arall a oedd yn boblogaidd yn yr Oesoedd Canol, sef Catherine. Cafodd ei darganfod yn Sain Dunwyd, Bro Morgannwg yn 2012. Mae’n hawdd adnabod y Santes Catherine wrth lun yr olwyn y cafodd ei merthyru arni.
Un sêl sy’n gysylltiedig â’r enghreifftiau hyn o ddelweddau defosiynol, ac sy’n ddarganfyddiad prin a phwysig yn ei hawl ei hunan, yw sêl o Geredigion sy’n dangos menyw ar ei thraed, yn gwisgo fêl, ac yn dal llyfr a ffon. Dim ond rhan o’r arysgrif sy’n ddarllenadwy, yn dweud ‘[ - - - - -] n l l e i r’, ac felly mae’n bosib mai un o abadesau Llanllŷr, unig leiandy Sistersaidd Cymru, oedd biau’r sêl.
Roedd y fleur-de-lys – lili arddulliedig – yn batrwm poblogaidd arall ac yn ddyfais addurnol boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Gwelir enghraifft hyfryd ar sêl blwm Tuder ab Ithel, o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, a ganfuwyd yn Llanhenwg, Sir Fynwy, yn 2010. Fodd bynnag, roedd y crefftwr a greodd ddarlun y fleur-de-lys ar sêl Henry David, a ganfuwyd yn Nanhyfer, Sir Benfro, yn 2009, dipyn yn llai medrus.
Os oedd eich teulu’n ddigon pwysig i gael arfbais, gallech benderfynu ei chynnwys ar eich sêl. Roedd arfbeisiau yn arwydd bwysig o statws yn yr Oesoedd Canol, ac ymddangosent ym mhobman, o furluniau, i feddau, gwydr lliw, harneisiau ceffylau a hyd yn oed ddillad, yn ogystal ag ar seliau.
Mae arfbais teulu Turberville o Gastell Coety, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ymddangos ar sêl a ddarganfuwyd yn Saint-y-brid yn 2010, ac y cyfeirir ati uchod. Fodd bynnag, mae’n anos gwybod pa deuluoedd sy’n gysylltiedig â seliau herodrol eraill, fel yr un a ddarganfuwyd yn Reynoldston, Gŵyr, yn yr un flwyddyn, neu’r tair chevron a endorrwyd yn fras ar sêl a ganfuwyd yn Llanasa, Sir y Fflint, yn 2012.
Yn ogystal â chroesau, sêr, seintiau ac arfbeisiau, gwelir nifer o batrymau eraill yn cynnwys anifeiliaid, lluniau pobl heb fod yn grefyddol, llythrennau a gwrthrychau. Mae’n bosib bod gan rai, fel y pen hydd a welir ar sêl a ganfuwyd ym Mhenfro yn 2017 neu’r llew ar ei draed ôl sydd ar sêl o Holt, Wrecsam, gysylltiadau herodrol, gan gyfeirio at anifail ar arfbais y perchennog.
Weithiau gwelir bwâu a saethau, er enghraifft ar sêl a ddarganfuwyd ger Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr, yn 2012, a gallai hyn fod yn arwydd o gysylltiad â saethyddiaeth, naill ai fel milwr neu fel heliwr. Fodd bynnag, prin yw cyfeiriadau at swyddi. Dim ond ar un sêl a ddarganfuwyd yng Nghymru ac a gofnodwyd gyda PAS y gwelir cyfeiriad clir at alwedigaeth. Roedd y sêl blwm hirgrwn bigfain a ganfuwyd yn Llawhaden, Sir Benfro, yn 2006, ac sy’n dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, yn eiddo i ‘I’his Carpentarii’ (Siôn y Saer) ac arni gwelir darn o offer saer, sef cwmpawd mesur.
Casgliad
O’r holl fathau o wrthrychau a gofnodir fel arfer gan y Cynllun Henebion Cludadwy, mae matricsau seliau yn unigryw a gwerthfawr gan eu bod yn ein cyfeirio at bobl benodol a enwir. Yn aml, dyma’r unig dystiolaeth sydd gennym o fodolaeth y bobl hyn, oherwydd mae’n bosib nad oes cofnod arall, hanesyddol nac archaeolegol, ohonynt. Yn fwy na hynny, maent yn rhoi cipolwg difyr ar fywydau eu perchnogion: eu gweithgareddau, eu statws a hyd yn oed eu hunaniaeth ethnig, eu swyddi a’u credoau.
Darllen Pellach
David H. Williams, Catalogue of Seals in the National Museum of Wales, 2 gyfrol, (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1993 ac 1998, Caerdydd).
David H. Williams, Welsh History through Seals (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1982).
Seals in Context: Medieval Wales and the Welsh Marches, John McEwan ac Elizabeth New, golygyddion, (Prifysgol Aberystwyth, 2012).
Gwefan prosiect Imprint: https://www.imprintseals.org
Yr holl luniau ©Amgueddfa Cymru oni nodir yn wahanol.
sylw - (2)