Gŵyl Archaeoleg 2023.
Cynllun Henebion Cludadwy Cymru – Cysylltu â Chynulleidfaoedd
Ddiwedd 2022, sefydlodd Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) swydd ymgysylltu arloesol er mwyn cynyddu proffil y cynllun a meithrin perthynas â chanfyddwyr ledled y wlad. Er bod PAS Cymru wedi ymgysylltu â chymunedau erioed, roedd cylch gwaith y rôl newydd yn ehangach nag erioed, ac yn cynnig cyfleoedd sylweddol i'r cynllun yng Nghymru.
Mae pedwar Swyddog Cyswllt Canfyddiadau (FLO) yng Nghymru ar hyn o bryd. Gallwch chi gysylltu ag FLO yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam, ac mae cefnogaeth gref i adrodd ar ganfyddiadau gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Dyfed a Gwynedd yn y de-orllewin a'r gogledd-orllewin. Mae'r rhwydwaith yn rhoi cyrhaeddiad da, ond amherffaith, ar draws Cymru ac mae creu rôl ymgysylltu PAS wedi ein galluogi i dargedu ymdrechion mewn ardaloedd o Gymru lle mae cael cymorth PAS yn fwy o her.
Ddechrau Tachwedd 2022 dechreuodd PAS Cymru gynnal cyfres o weithgareddau ymgysylltu i'r cyhoedd, gan ganolbwyntio ar feithrin cysylltiadau ag aelodau o'r gymuned sydd â diddordeb mewn archaeoleg a threftadaeth. Ym mhob achos posib, datblygwyd y cysylltiadau hyn yn berthynas â phartneriaid allweddol, yn enwedig cymunedau canfyddwyr ac amgueddfeydd lleol.
Gan fod PAS yn parhau yn gynllun gwirfoddol rydyn ni'n dibynnu ar ewyllys da ein partneriaid, a dim ond os ydyn nhw'n ymwybodol ohonon ni y gall pobl fod ag ewyllys da! Mae digwyddiadau darganfod PAS Cymru wedi bod yn gyfle i ni hyrwyddo'n hunain i fwy o bobl ac esbonio ein gwaith, a hynny mewn lleoliadau sydd wedi bod yn anodd cael atyn nhw dros y blynyddoedd. Diolch i amgueddfeydd Bangor, Caerfyrddin ac Arberth, dros y blynyddoedd diwethaf mae PAS wedi cysylltu â chanfyddwyr fyddai wedi gorfod teithio filltiroedd lawer fel arall i gyfarfod wyneb yn wyneb ag FLO.
Mae perthynas waith gref gydag amgueddfeydd ledled Cymru yn hanfodol i gofnodi deunydd archaeolegol sy'n cael ei ganfod tu hwnt i waith ymchwil swyddogol. Pan fydd sefydliadau treftadaeth yn hyderus yn cyfeirio canfyddwyr aton ni, mae'n haws creu llwybrau sy'n sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn nhreftadaeth eu milltir sgwâr yn gwybod ble i adrodd ar ganfyddiadau. Yn hydref 2023 a gaeaf 2024, bydd amgueddfeydd yng Nghaerfyrddin a sir Benfro yn cynnal arddangosfeydd yn dangos gwaith PAS Cymru, gan greu cyfleoedd ychwanegol i hybu ymwybyddiaeth ymhlith amgueddfeydd lleol a'u cynulleidfaoedd.
Mae FLOs yn mynychu cyfarfodydd datgelyddion metel yn barod, ond mae PAS Cymru hefyd yn gweithio'n agos â chlybiau ac unigolion sy'n defnyddio datgelyddion metel ac yn eu gwahodd i ddigwyddiadau mewn amgueddfeydd lleol, ac i gyfrannu atynt. Drwy hyn mae PAS Cymru a datgelyddion metel wedi llwyddo i uno i rannu negeseuon am arferion gorau i gynulleidfa ehangach. Yng ngwanwyn 2023 gwahoddwyd PAS Cymru gan aelodau o'r gymuned datgelyddion metel i gymryd rhan yn un o'u digwyddiadau cyhoeddus yn y Canolbarth. Roedd hyn yn gyfle gwych i ni rannu eu brwdfrydedd am yr holl hanes o'n cwmpas a rhannu syniadau am arferion gorau a chofnodi, a hynny gyda chynulleidfa fyddai prin wedi clywed am y cynllun fel arall.
Derbyniodd y rôl ymgysylltu groeso cynnes, ac mae wedi talu ar ei chanfed. Mae amgueddfeydd lleol wedi bod yn frwd dros y potensial o ehangu eu cynulleidfa diolch i bresenoldeb PAS Cymru yn eu calendr digwyddiadau, a datgelyddion metel wedi bod yn barod eu cefnogaeth i'r cynllun ymgysylltu yng Nghymru, gan fynychu a hyrwyddo digwyddiadau ac annog datgelu cyfrifol. Megis dechrau elwa ar y partneriaethau hyn ydyn ni, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld sut y gall cysylltiadau dyfu, er budd cyfoeth archaeolegol Cymru, drwy gydol y flwyddyn.