Deinosoriaid Cymru
- Wyddech chi fod deinosoriaid yn byw yng Nghymru dros 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl?
- 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd yr ardal rydyn ni’n ei hadnabod bellach fel de Cymru yn anialdir. Ond roedd lefelau'r môr yn codi, ac erbyn 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd moroedd trofannol wedi disodli'r anialdir.
- Deinosor bychan o Gymru o'r cyfnod Jwrasig yw’r Dracoraptor. Cafodd ei ddarganfod gan helwyr ffosiliaid yn 2014 ac mae bellach yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Cymru
Mae ffosiliau’n cynrychioli gweddillion anifeiliaid a phlanhigion a oedd yn byw filiynau o flynyddoedd yn ôl a gallant ysbrydoli pobl o bob oed. Mae darganfyddiadau diweddar o ffosiliau gwych o ddeinosoriaid 200 miliwn oed yn ne Cymru wedi ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r ymlusgiaid eiconig hyn a'r amgylchedd roedden nhw’n byw ynddo. Mae ffosiliau hynaf Cymru yn dyddio'n ôl i ychydig dros 560 miliwn o flynyddoedd – ond stori arall yw honno.
Pryd ymddangosodd y deinosoriaid gyntaf?
Esblygodd y deinosoriaid am y tro cyntaf tua 240–235 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Bryd hynny roedd bywyd ar y ddaear yn adfer ei hun ar ôl y difodiant torfol mwyaf erioed, sef y Farwolaeth Fawr, ac roedd llawer o grwpiau newydd yn esblygu i lenwi’r bylchau a adawyd gan anifeiliaid diflanedig. Yn ystod y cyfnod hwn, sef y cyfnod Triasig, cafodd yr holl gyfandiroedd y gwyddom amdanyn nhw heddiw eu huno fel uwchgyfandir enfawr – Pangaea – a oedd yn darparu hinsawdd sych a phoeth a oedd o fantais i’r Deinosoriaid a’r ymlusgiaid eraill. Mae’r deinosoriaid a'r pterosoriaid oedd yn hedfan yn perthyn i grŵp o ymlusgiaid o'r enw archosoriaid. Yr unig aelodau o’r grŵp yna sy’n byw heddiw yw crocodeiliaid ac adar.
Sut olwg oedd ar y deinosoriaid cynnar?
Roedd y deinosoriaid cynharaf oll yn anifeiliaid bychan, ysgafn a deudroediog oedd yn cerdded ar ddwy goes, a dim ond yn llawer diweddarach y gwnaethon nhw esblygu i'r meintiau, siapiau a ffyrdd o fyw anferthol rydyn ni mor gyfarwydd â nhw heddiw.
Pryd gafodd deinosoriaid eu darganfod gyntaf yng Nghymru?
Cafwyd hyd i'r dystiolaeth gyntaf o ddeinosoriaid yng Nghymru yn 1879 pan oedd arlunydd a hanesydd naturiol o Gymru o'r enw T.H. Thomas yn archwilio pentrefi ger Porthcawl ym Mro Morgannwg. Sylwodd ar slab anarferol o graig ger yr eglwys yn y Drenewydd yn Notais. Ar y graig sgwâr 2 fetr wastad hon roedd olion llwybr pum ôl troed, bob un â thri bys troed syth. Yn ôl y chwedl leol, olion traed y diafol oedd y rhain, ond roedd Thomas yn eu hadnabod fel rhai oedd yn cyfateb i’r olion traed deinosoriaid a ganfuwyd yn America. Trefnodd i'r graig gael ei symud i Amgueddfa Ddinesig Caerdydd (rhagflaenydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel y'i gelwir heddiw).
Yr un flwyddyn, daethpwyd o hyd i ail slab gerllaw gyda thri gwahanol math o olion traed deinosoriaid. Roedd un o'r olion traed hyn yn fwy ac yn lletach, gyda phedair bys troed crwm.
Allwch chi ddod o hyd i olion traed deinosoriaid yng nghreigiau'r de heddiw?
Gallwch; mae ambell safle yng Nghymru lle gallwch ddod o hyd i olion traed heddiw. Mae'n bwysig cofio bod y rhain i gyd yn cael eu gwarchod gan y gyfraith, gan eu bod yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA neu SSSI) a gallai morthwylio neu gasglu olion traed arwain at ddirwy enfawr.
Bae Bendricks, ger y Barri, yw'r lle gorau i weld rhai o'r olion traed. Mae angen i chi ymweld pan fydd y llanw’n isel ac edrych yn ofalus iawn ar silffoedd fflat y graig. Mae'n haws gweld olion traed os yw'r haul yn isel yn yr awyr, neu ar ôl glaw pan fo'r pantiau bach yn llawn dŵr.
Pa fath o olion traed deinosor sydd wedi eu canfod yn y de?
Mae o leiaf bedwar math gwahanol o olion traed wedi eu canfod yn y de. Mae dau fath mwy a dau fath llai, ond mae'n debyg eu bod yn cynrychioli mwy na phedwar math o ddeinosor. Mae yna hefyd ychydig o olion a allai fod wedi'u gwneud gan fathau eraill o ymlusgiaid.
Pa fath o ddeinosoriaid adawodd yr olion traed hyn?
Mae bron yn amhosibl dweud yn union pa fath o ddeinosoriaid wnaeth adael yr olion traed, gan fod gan lawer o fathau ohonyn nhw draed tebyg. Yn hytrach, mae palaeontolegwyr yn defnyddio enwau sy'n cynrychioli maint a siâp yr ôl troed heb geisio ei gyfateb i unrhyw un anifail. Rydyn ni’n cymharu maint a siâp yr olion traed â ffosiliau esgyrn traed ymlusgiaid a oedd yn byw tua'r un pryd i ganfod y grŵp cyffredinol o ddeinosoriaid a allai fod wedi'u creu.
Rhoddir yr enw Anchisauripus ar ôl troed tri bys o tua 20cm o hyd gyda bys canol hir. Credwn fod olion traed Anchisauripus wedi'u gwneud gan theropod neu ddeinosoriaid cigysol (oedd yn bwyta cig) a oedd tua 2 fetr o daldra, ac efallai hyd at 5 metr o hyd. Y rhain fyddai prif ysglyfaethwyr yr ardal. Yr enw ar yr olion traed lletach, pedwar bys (neu weithiau tri bys) yw’r Eosauropus. Byddai olion traed Eosauropus wedi cael eu gadael gan ddeinosoriaid llysysol (oedd yn bwyta planhigion) tua 2–3 metr o daldra o bosibl.
Mae yna hefyd olion tri bys llai o'r enw Grallator. Mae'r rhain tua 8–12cm o hyd ac mae ganddynt fys canol hir. Mae'n debyg iddynt gael eu creu gan ddeinosoriaid theropod bach.
Y pedwerydd math yw Evazoum. Mae'r rhain tua 10–12cm o hyd, ac mae ganddyn nhw naill ai 3 neu 4 o fysedd syth sydd i gyd bron yr un hyd. Mae'n debyg iddynt gael eu creu gan ddeinosoriaid llysysol bach, sauropodomorph. Dyma’r math o ôl troed a ganfuwyd gan Lily Wilder yn 2021 ac sydd bellach i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Pa mor bell yn ôl oedd y deinosoriaid hyn yn byw?
Roedd y deinosoriaid a adawodd olion traed yn ne Cymru yn byw yma 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Roedd hyn yn ystod rhan uchaf y cyfnod Triasig (Cyfnod Norian). Enw'r graig goch lle cawsant eu cadw yw Carreg Laid Mersia.
Sut le oedd Cymru yn y cyfnod Triasig?
220 miliwn o flynyddoedd yn ôl dim ond un rhan fach o'r uwchgyfandir enfawr o'r enw Pangaea oedd Cymru. Doedd dim Cefnfor yr Iwerydd na Môr y Gogledd gan fod Cymru wedi’i huno ag America ac Ewrop. Roedd hyn yn golygu bod gennym hinsawdd sych a phoeth iawn, a gorchuddiwyd llawer o dde Cymru mewn anialwch poeth. Byddai stormydd achlysurol yn achosi i lifogydd o ddŵr lleidiog a chreigiau lifo i lawr o'r bryniau cyfagos i wastadoedd yr anialdir. Byddai hyn yn creu llynnoedd bas a nentydd a oedd yn anweddu'n gyflym gan adael llaid gwlyb. Gadawodd y deinosoriaid olion traed wrth iddynt gerdded drwy’r llaid a oedd wedyn yn caledu yn yr haul, gan gadw'r olion cyn iddynt gael eu gorchuddio gan y llifogydd nesaf.
A ddarganfuwyd unrhyw esgyrn o'r deinosoriaid Triasig hyn?
Yn 1897, cafwyd hyd i asgwrn gên yn Stormy Down, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Cafodd hyn ei gadw mewn creigiau sydd ond ychydig filiynau o flynyddoedd yn iau na'r olion traed. Cafwyd hyd i'r asgwrn gên mewn craig o'r enw Tywodfaen Cwarela, o ddiwedd y cyfnod Triasig. Mae'n dangos argraffiadau clir iawn o sawl dant crwm, yn pwyntio tuag yn ôl, gan nodi mai bwyta cig oedd hwn. Rhoddwyd yr enw Zanclodon ar y deinosor, sy'n golygu dant gau neu wag. Credir mai dyma'r un math cyffredinol o ddeinosor a adawodd olion traed Anchisauripus.
Yn fwy diweddar, daethpwyd o hyd i asgwrn bys ac asgwrn bys troed o ddeinosoriaid o faint tebyg o'r cyfnod Triasig (gwely esgyrn Rhaetig) ym Mhenarth – sydd o oedran tebyg. Mae'r rhain yn parhau i fod o dan berchnogaeth breifat ar hyn o bryd.
A oedd darganfyddiadau deinosoriaid eraill yng Nghymru?
Cafwyd hyd i ddau ddeinosor bychan, ffosiledig mewn chwarel ger y Bont-faen, yn y de. Fe'u cloddiwyd yn y 1950au pan oedd chwareli'n cael eu gweithio â llaw, yn hytrach na gyda ffrwydron. Roedd y ddau ddeinosor hyn yn ddeinosoriaid ifanc, ac roedd y ddau yn fach iawn. Roeddent tua 50cm o daldra. Un o'r rhain yw’r deinosor sawropodomorff sef Pantydraco tra bod y llall yn theropod bach o'r enw Pendraig. Mae bron yn amhosibl rhoi union ddyddiadau ar gyfer y deinosoriaid hyn gan iddynt gael eu darganfod yn olion ogofâu hynafol, lle cawsant eu golchi i’r craciau bach a’r holltiadau dwfn. Credir eu bod yn ôl pob tebyg o ran ddiweddaraf un y Cyfnod Triasig – tua 200–205 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae'r ffosiliau hyn yn perthyn i'r Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain.
Oes yna unrhyw ddeinosoriaid Jwrasig yn ne Cymru?
Yn 2014, darganfuwyd rhan o sgerbwd deinosor oedd yn bwyta cig o'r enw Dracoraptor ar Drwyn Larnog, ger Penarth. Cafwyd hyd i hyn mewn sawl bloc ar ôl cwymp yn y clogwyn. Mae'r esgyrn yn lled-gymalog, gydag un bloc yn cynnwys elfennau o'r glun a rhan uchaf y goes, roedd gan un arall y fraich chwith ac esgyrn y llaw, roedd traean yn cynnwys y benglog, tra bod un arall yn cynnwys esgyrn y droed chwith. Ni chwympodd y sgerbwd hwn yn ddarnau cyn iddo gael ei ffosileiddio, ond fe arnofiodd allan i'r môr, lle suddodd ac yna gael ei orchuddio gan fwd.
Sut olwg oedd ar y Dracoraptor?
Deinosor bychan oedd y Dracoraptor. Ni fyddai wedi bod yn fwy na 2.5m o hyd ac mae'n debyg mai dim ond tua 50–70cm o daldra. Roedd yn anifail main a allai fod wedi symud yn gyflym i ddal ei ysglyfaeth. Roedd ganddo lawer o ddannedd miniog, a oedd yn pwyntio tuag yn ôl i’w ên. Cerddai a rhedai ar ei goesau ôl, gan ddefnyddio ei freichiau o bosibl i fachu ei ysglyfaeth. Roedd ganddo gynffon hir iawn, a gwddf hir.
Faint yn ôl oedd y Dracoraptor yn byw?
Roedd y Dracoraptor yn byw tua 201 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Rydyn ni’n gwybod hyn oherwydd gallwn weld yr union haen o graig y disgynnodd y ffosil ohoni. Mae'r creigiau ar Drwyn Larnog wedi cael eu cofnodi a'u mesur yn fanwl fel ein bod yn gwybod eu hoedran. Dyma oedd dechrau'r Cyfnod Jwrasig.
Sut olwg oedd ar Gymru yn y Cyfnod Jwrasig?
Roedd hwn yn gyfnod o newid hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr yng Nghymru. Dechreuodd uwchgyfandir Pangaea rannu ar wahân ar ddiwedd y cyfnod Triasig a dechreuodd Cefnfor yr Iwerydd ffurfio. Boddwyd yr anialdir Triasig yn araf wrth i’r moroedd godi, a throdd yr hinsawdd yn llawer gwlypach hefyd. Erbyn dechrau'r Jwrasig, roedd moroedd cynnes a bas yn gorchuddio de Cymru yn bennaf, a oedd yn gynefin delfrydol i lawer o anifeiliaid morol. Roedd rhai o'r bryniau blaenorol bellach yn ynysoedd yn codi o'r môr, ac roedd mamaliaid cynnar, deinosoriaid ac ymlusgiaid eraill yn byw ar yr ynysoedd hyn.
Ble alla i ddod o hyd i ffosiliau deinosor yng Nghymru?
Mae ffosiliau deinosor yn hynod brin, ac nid ydych yn debygol o ddod o hyd i un. Nid oes unman yn y DU lle gallech fynd i ddod o hyd i ffosiliau deinosoriaid gyda sicrwydd. Ond mae llawer o ffosiliau eraill i'w cael, cyn belled â'ch bod yn dilyn rheolau diogelwch synhwyrol ac yn cymryd gofal i beidio â difrodi neu dynnu unrhyw un sydd i’w weld mewn arwynebau creigiau solet.
Os ydych chi'n dod o hyd i rywbeth nad ydych chi'n siŵr amdano, yna mae'n well cysylltu ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd er mwyn gwirio'ch darganfyddiadau. Cofiwch roi gwybod i ni ble y daethoch o hyd i'ch ffosil, a beth yw ei faint. Pan fyddwn yn ateb, gallwch anfon lluniau o'ch canfyddiad atom.
Edrychwch ar ein Taflenni Sylwi i helpu i adnabod eich darganfyddiadau eich hun.