Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Defnyddiwch y taflenni sylwi hyn fel cyflwyniad i grwpiau hanes natur. Maen nhw oll yn arddangos esiamplau o bethau sy’n digwydd ym myd natur i’ch helpu chi i ddechrau arni. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch cysylltwch â gwyddonydd ein hamgueddfa.
Oes taflen sylwi yr hoffech chi ei gweld yma? Anfonwch argymhellion atom ni.
A oes malwod yn byw yn eich llyn bywyd gwyllt chi? Beth am fynd i weld, a defnyddio'r canllaw hwn i falwod pwll dŵr gardd yng Nghymru.
Oeddech chi'n gwybod bod yr Amgueddfa wedi ei hadeiladu o gerrig gwaddod ac igneaidd – calchfaen a gwenithfaen sy'n cynnwys ffosiliau? Defnyddiwch y canllaw hwn i fynd ar daith o amgylch yr Amgueddfa ac adnabod rhai o'r cerrig adeiladu hyn.
Mae hela ffosilau yn weithgaredd awyr agored llawn hwyl i’r teulu cyfan. Mae'r canllaw hwn yn dangos sut i ganfod ffosilau mewn cerrig a sut i adnabod marciau cerrig eraill.
Defnyddiwch y canllaw hwn i ddechrau hela ffosilau ar draeth Penarth ger Caerdydd a dysgu am hanes daearegol y clogwyni lliwgar.
Hoffech chi ddysgu am y gwahanol fathau o ffosilau? Defnyddiwch y canllaw hwn i ddysgu mwy am ffosilau ac i rannu eich canfyddiadau ffosil i'r grwpiau mwyaf cyffredin.
Gall ffosilau ffurfio pan fydd planhigyn neu anifail sydd wedi ei gladdu am filiynau o flynyddoedd yn cael ei ddisodli gan fwynau. Defnyddiwch y canllaw hwn i ddysgu rhagor am bob math o anifail: pryd oedd yn byw, beth fyddai'n ei fwyta, a pha grŵp mawr (neu ffylwm) yr oedd yn perthyn iddo.
Pan fydd gwastraff plastig yn golchi i'r lan ar ein traethau bydd anifeiliaid yn sownd wrtho weithiau, ond nid yw pob un yn frodorol i'r DU. Defnyddiwch y canllaw hwn i weld os oes un o'r anifeiliaid y gallwch chi eu gweld ar blastigion y môr wedi croesi'r Iwerydd i ymweld â Chymru!
Gall sylwi ar wymon fod yn weithgaredd awyr agored llawn hwyl i'r teulu cyfan. Gwymon brown yw dros chwarter holl rywogaethau Cymru – defnyddiwch y canllaw hwn i ddysgu lle i chwilio amdanyn nhw, y mathau mwyaf cyffredin a pha un sy'n cael ei ddefnyddio i greu gwrtaith gwymon!
Gall sylwi ar wymon fod yn weithgaredd awyr agored llawn hwyl i'r teulu cyfan. Gwymon coch a gwyrdd yw mwyafrif y 450 rhywogaeth yng Nghymru – defnyddiwch y canllaw hwn i ddysgu lle i chwilio amdanyn nhw, y mathau mwyaf cyffredin a pha wymon sy'n fwytadwy fel creision, garnais a bara lawr!
Mae rhai cregyn môr cyffredin i'w gweld ar y daflen hon. Ydych chi wedi gweld rhai o'r cregyn ar y traeth lleol? Mae cregyn môr i’w gweld ym mhob lliw a llun. Ond beth yw cregyn? Maen nhw’n cael eu creu gan yr anifeiliaid sy'n byw tu mewn iddynt – molysgiaid cyrff meddal.
Y traethlin yw lle bydd anifeiliaid a gwymon yn cael eu golchi i'r lan a’u gadael gan y llanw. Pwy â ŵyr beth welwch chi y tro nesaf yr ewch chi ar daith bywyd gwyllt?! Edrychwch yn ofalus y tro nesaf fyddwch chi’n cerdded ar hyd y traethlin yng Nghymru a defnyddiwch y daflen sylwi.
Gall adnabod malwod streipiog fod yn ddryslyd. Mae eu patrymau’n amrywio a’u siâp yn newid wrth dyfu. Mae canfod mwy o gregyn yn gwneud trefnu'n haws. Beth am greu project bywyd gwyllt i roi’r malwod yn eu trefn?
Faint o’r ymwelwyr adeiniog hyn allwch chi eu gweld yn eich gardd neu ofod gwyrdd lleol? Adar yw peth o'n bywyd gwyllt dinesig mwyaf annwyl. Cadwch lygad ar y lliwiau a’r meintiau gwahanol, a gwrandewch am eu caniadau a’u galwadau.
Canllaw lluniau i'r ffosilau cyffredin ar y traeth yn Aberogwr ym Morgannwg, sy’n adrodd stori moroedd trofannol, stormydd diffeithwch, a lefel y môr yn codi yn ne Cymru rhwng 350 a 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Canllaw i goed a llwyni gyda dail hirgrwn neu grwn sy'n colli eu dail yn y gaeaf. Cadwch lygad amdanyn nhw wrth gerdded yng Nghymru, mewn parciau, ac yn y ddinas.
Mae mwsogl yn tyfu ar gerrig, coed, pafin a waliau, ac yn aml i’w weld ochr yn ochr â llysiau'r afu a chennau sydd yn gallu edrych yn debyg iawn. Defnyddiwch y canllaw i weld os ydych chi wedi canfod mwsogl.
Traethau, clogwyni, ynysoedd a dyfroedd arfordir Cymru yw rhai o'r mannau gorau i wylio adar. Bachwch binocwlars ac ewch i chwilio!
Gwyfynod mawr trawiadol! Cadwch lygad amdanyn nhw fin nos, neu greu trap eich hun. Bydd y Gwalch-wyfyn Hofrol yn casglu neithdar yn y dydd.
Ffurfiwyd creigiau Bae Angle yn Ne Sir Benfro tua 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn moroedd trofannol, stormus, bas. Mae pob math o ffosilau i'w gweld yn y creigiau, ond peidiwch ceisio eu casglu.
Mae'r creigiau lliwgar ger Tyddewi gyda'r hynaf yng Nghymru. Cawsant eu ffurfio 635-460 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn moroedd oer, ac mae tystiolaeth o losgfynyddoedd a ffosilau ynddyn nhw.
Defnyddiwyd amrywiaeth o gerrig yn adeiladau a thai Tyddewi –nifer yn gerrig lleol, ac eraill o bell. Mae cerrig adeiladau yn ffordd wych o astudio daeareg lleoliad trefol. Faint o'r cerrig hyn allwch chi eu gweld?
Ffurfiwyd creigiau Southerndown, Bro Morgannwg, mewn moroedd Jwrasig cynnes ac mae nhw gyda'r ieuengaf yng Nghymru.
315-300 miliwn o flynyddoedd yn ôl roedd Cymru’n drwch o fforestydd a chorsydd. Roedd rhedyn a chnwpfwsogl yn tyfu mor dal â choed, ac mae eu ffosilau i’w gweld yng nghreigiau Carbonifferaidd Uchaf y Cymoedd a rhannau o ogledd Cymru.
Mae nifer o wahanol blanhigion ar ein Dôl Drefol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyma bum planhigyn sy’n blodeuo’n gyson ar y ddôl dros yr haf. Gallwch chi eu gweld nhw mewn gerddi, wrth ochr y ffordd ac mewn cloddiau hefyd. Planhigion cynhenid yw’r rhain i gyd, sy’n golygu eu bod nhw wedi cyrraedd yma ymhell yn ôl heb help pobl. Cadwch lygad amdanyn nhw, ond peidiwch â’u casglu er mwyn i beillwyr fedru ymweld.
Arthropodau sydd wedi marw allan yw trilobitau, oedd yn byw yn y moroedd rhwng tua 520 a 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Fel un o’r grwpiau anifeiliaid mwyaf amrywiol, roeddent yn rhan bwysig o ecosystemau morol cynnar. Mae eu sgerbydau allanol caled i’w gweld yn aml fel ffosilau.
Mae mwsoglau’n ymddangos yn debyg i’w gilydd nes i chi edrych yn ofalus. Dyma 5 mwsogl cyffredin, o wahanol gynefinoedd, gyda nodweddion unigryw i helpu i’w hadnabod. Beth am geisio dod o hyd iddynt yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru?