Torrwr glo cynnar. Un o'r peiriannau torri glo cyntaf i'w ddefnyddio yng Nghymru. Peiriant 'picas chwyrlïol' yw hwn a gynhyrchwyd gan y Meistri Ridley a Jones, sy'n debyg i beiriant a ddefnyddid ym Mhwll Glo Garth, Maesteg yn 1863. Teithiai'r peiriant ar hyd ffas y talcen ar gledrau gan dorri'r glo yn yr un dull â'r colier wrth iddo drafod ei fandrel.