Ffotograffiaeth Hanesyddol

Carreg ag arysgrif Ladin arni, Margam

Yn y llun hwn gwelir un o ddau wyneb y garreg sydd ag arysgrifau arnynt. Mae'r arysgrif yn rhan o garreg filltir Rufeinig, sy'n dyddio o deyrnasiad Maximinus Daia (AD309-13). Daethpwyd o hyd iddi ger Port Talbot, ond tynnwyd y llun yn Abaty Margam. Mae bellach yn Amgueddfa Gerrig Margam. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 258 / Redknap a Lewis (2007) G92

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Margam
Accession Number: 25.486