Ffotograffiaeth Hanesyddol

Carreg ag arysgrifau Lladin ac Ogam arni, Margam

Mae'r Garreg hon o'r 6ed ganrif, sydd hefyd yn cael ei galw'n garreg Pumpeius, bellach yn Amgueddfa Gerrig Margam. Cafodd y llun ei dynnu ger ochr y ffordd a adwaenir fel 'Water Street', sef llwybr tybiedig y ffordd Rufeinig rhwng caerau Caerdydd a Chastell-nedd. Mae gan Amgueddfa Cymru gast o'r garreg yn ei chasgliad.

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Margam
Other Numbers: 37119/85
Keywords: carreg