Ffotograffiaeth Hanesyddol
Gwaith dur Dowlais-Caerdydd (East Moors), Caerdydd, tua 1896
Ffwrneisi rhifau 1 i 3 o chwe ffwrnais tân agored. Ar y chwith mae pâr o letwadau ar reilffordd yr oedd y dur o'r ffwrneisi yn cael ei dywallt iddo. Roedd y rhain yn cael eu tynnu ar hyd y cledrau gan y craen stêm ar y dde tra bod y dur hylif ynddynt yn llifo i fowldiau ingot a osodwyd yn y pwll rhwng y cledrau. O dan y cloriau yn y blaendir ar y chwith mae 'pyllau trochi' wedi'u gwresogi lle yr ailgynheswyd yr ingotau solid ar ôl eu tynnu o'r mowldiau.