Ffotograffiaeth Hanesyddol
Ffotograffau gan William Booth
Roedd William Booth yn ffotograffydd o Gaerdydd a oedd yn weithgar yn y 1890au a'r 1900au. Cyfrannodd lawer o ddelweddau at yr Arolwg Ffotograffig o Forgannwg. Mae'r delweddau a ddangosir yma yn dangos bywyd ar strydoedd ac ym mannau agored Caerdydd yn ystod y 1890au. Cynllun yfed yn yr awyr agored a ddyfeisiwyd gan ddynion lleol yn Grangetown, Caerdydd, i osgoi Deddf Cau ar y Sul 1881 oedd yr 'Hotel de Marl'.