Ffotograffiaeth Hanesyddol
Y Pasiant Cenedlaethol, Castell Harlech, Sir Feirionydd, 21-26 Awst, 1922.
Mrs J. M. Gresham a'i meibion J. F. a C.A. Gresham mewn gwisg ar gyfer Pasiant Harlech, 1922. Roedd Mrs Gresham yn chwarae rhan yr Iarlles Mary Dymoke. Digwyddiadau theatrig oedd pasiantau a oedd yn ail-greu digwyddiadau hanesyddol a chwedlau o hanes Cymru. Roedd pasiantau'n cynnwys cyfranogwyr lleol a ffigurau nodedig mewn cymdeithas, megis y Prif Weinidog Lloyd George, ei wraig y Fonesig Margaret a'u teulu yn chwarae rhai o'r prif rannau.