Ffotograffiaeth Hanesyddol
Neuadd Wledda, Castell Caerdydd ar ddechrau'r 20fed ganrif
Mae'r Neuadd Wledda ar safle'r hen neuadd ganoloesol. Mae'n un o'r llu o ystafelloedd a ddyluniwyd gan y pensaer, William Burges. O 1866 ymlaen cafodd Burges ei gyflogi gan 3ydd Ardalydd Bute i ailddylunio ac adnewyddu Castell Caerdydd yn arddull Adfywiad Gothig Oes Fictoria.