Carreg ag arysgrifau Lladin ac Ogam arni, Eglwys Dewi Sant, Y Trallwng

Mae'r arysgrif yn dyddio o hanner cyntaf y 6ed ganrif. Mae yna hefyd groes gylch ddiweddarach o'r 7fed-9fed ganrif a ychwanegwyd ar ben y garreg. Cafodd ei darganfod tua 1860 yn cael ei defnyddio fel lintel ffenestr. Am beth amser ar ôl ei symud, fe'i defnyddiwyd yn stôl droed ar gyfer y clochydd a chafodd ei symud i'w safle presennol yn yr eglwys cyn 1909. Roedd y llun hwn yn awgrymu bod y garreg wedi'i symud erbyn y 1890au. Mae gan Amgueddfa Cymru gast o'r garreg yn ei chasgliad. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 70 / Redknap a Lewis (2007) B45

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Y Trallwng
Accession Number: 25.486