Ffotograffiaeth Hanesyddol
Ore Wharf (Cei Dowlais), Doc y Rhath, Caerdydd, 1899-1914
SS OTTA o Norwy yn dadlwytho mwyn haearn i wagenni dur ar gyfer Gwaith East Moors ac i wagenni pren Rheilffordd Rhymni ar gyfer Gwaith Dowlais. Mae tri cheffyl siyntio yn sefyll yn y pellter canol. Mae pentwr o reiliau â gwaelodion fflat ar y chwith, wedi'u rholio yng Ngwaith Dowlais fwy na thebyg, yn aros i gael eu hallforio.