Digwyddiad:Meddwlgarach, Cerddoriaeth a Chrefft
Dathlwch Wythnos Addysg Oedolion yn Amgueddfa Wlân Cymru gyda'r Barddones, Helen Cook a'r Delynores, Delyth Jenkins.
Yn ddiweddar, mae Helen Cook wedi cyhoeddi llyfr o'r enw 'A Cloth of Sounds: Poems exploring the Welsh Woollen Industry'. Yn ystod y prynhawn, bydd Helen yma i ddarllen y cerddi a thrafod eu hystyron. Bydd Delyth yn cyfeilio wrth i'r cerddi gael eu darllen. Byddwch hefyd yn cael cyfle i roi cynnig ar ffeltio gwlyb, wrth ddysgu'r derminoleg Gymraeg ar gyfer gwahanol rannau o'r broses ffeltio gwlyb.
Dewch â chôt ac esgidiau addas oherwydd, os yw'r tywydd yn dda, bydd rhan o'r gweithdy yn digwydd yng Ngardd Liwurau yr Amgueddfa. Bydd ffeltio gwlyb yn digwydd yn Ystafell Addysg yr Amgueddfa.
Mae’r digwyddiad yma’n rhad ac am ddim, ond bob tro y byddwch chi’n cyfrannu rhodd boed fach neu fawr, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Gallwch gyfrannu drwy ymweld Cefnogwch ni | Amgueddfa Cymru
Gwybodaeth
Digwyddiadau perthnasol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd