Cefndir ddefnyddiol
Y ddelwedd gryfaf o fenywod Cymru a gipiodd y dychymyg hanesyddol dros y ddwy ganrif ddiwethaf yw'r 'Fam Gymreig'. Yng Nghymru, roedd gan ddynion eu gwaith a chan fenywod eu gwaith, gwahanol, hwythau. Ym 1901, morynion oedd dros hanner y menywod a oedd mewn gwaith swyddogol yng Nghymru ac erbyn 1911 roedd un o bob tri dyn oedd yn gweithio naill ai'n chwarelwr neu'n löwr. Mewn traddodiad llafur lle mae diwydiannau trymion yn chwarae rhan mor bwysig, ac mewn cymdeithas o dan ddylanwad cryf Anghydffurfiaeth, roedd menywod, i raddau helaeth, yn weithlu cudd. Y cartref oedd eu lle gan amlaf.
Er bod menywod wedi gweithio erioed, ychydig o sylw a roddwyd i'w gwaith. Ni restrwyd gwaith penodol ar gyfer merched ar ffurflen y cyfrifiad tan 1831 pan ymddangosodd 'female servants' ochr yn ochr â naw grwp o swyddi ar gyfer dynion. Yng nghyfrifiad 1911 y dechreuwyd dosbarthu merched yn sengl, priod neu weddw. Anodd iawn yw cymharu ffigurau'r cyfrifiadau oherwydd bod y categorïau a'r diffiniadau'n amrywio a bod ffigurau'n cael eu llurgunio. Fodd bynnag, un peth sy'n amlwg yw'r diffyg cofnodion am waith cyflogedig i ferched gan fod y cyfrifiad bob amser yn diffinio 'gwaith' fel gwaith cyflogedig, llawn amser. Roedd eu harferion gweithio'n fwy cymhleth o lawer na rhai'r rhan fwyaf o ddynion. Yn aml, roedd merched yn gwneud gwaith tymhorol, achlysurol, dros dro, anffurfiol neu ran amser. Roedd y math o waith yn dibynnu a oeddent yn disgwyl neu'n magu plant, ac ar eu statws priodasol a chymdeithasol. Felly roedd eu bywyd cartref a'u bywyd gwaith yn aml yn un ac ni ellir defnyddio labeli swyddi traddodiadol i ddisgrifio swyddogaethau merched yn y gweithlu. Fel y pwysleisiodd Mari A. Williams, mae'n rhaid ystyried gwaith merched yn ei gyd-destun economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Mae diffiniadau traddodiadol o waith wedi effeithio ar ein ffordd o edrych ar hanes ac ar y ffordd y mae merched yn diffinio'u perthynas â gwaith. Wrth drafod byd ei mam, dywed Margaret Cox, 'Alle hi ddim mynd mes i witho achos, ch'wel, odd whech ohonon ni. Ac odd menwod ddim yn mynd mes i weitho pryn'ny', ond yna mae'n mynd ymlaen i esbonio bod ei mam yn gwneud 'Gwaith caled, diflas am tua swllt a whech', sef, 'tam' bach o olchi, ne sgwrio i rywun odd yn symud tŷ.' Onid gwaith oedd hwn? Roedd diffyg statws y gwaith, y cyflog isel a'r ffaith nad oedd gwaith tymhorol, achlysurol, dros dro, anffurfiol neu ran amser, ac yn enwedig gwaith di-dâl yn y cartref, yn cael eu cydnabod fel gwaith, yn effeithio ar y ffordd yr oedd merched yn synio am eu lle yn y gweithlu. Roeddent yn teimlo'u bod y tu allan i'r gweithlu.
Yn nhrefi a chefn gwlad Cymru, morynion a gwniadwragedd oedd y rhan fwyaf o'r merched a oedd mewn gwaith swyddogol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed. Roedd ffigurau swyddogol y cyfrifiad ar gyfer Cymru bob amser 10% yn uwch na'r ffigurau cymharol ar gyfer Lloegr. Roedd y gwaith ei hunan yn amrywio yn ôl natur a lleoliad y tŷ, faint o weision a morynion oedd yno a chymeriad y cyflogwr.Y farn gyffredinol yw mai cyflog a statws isel a gâi morynion ym mhob man. Fel yr esboniodd Deirdre Beddoe, roedd morynion yn gorfod bod yn daeogaidd, gan dderbyn safle penodol ac isel mewn cymdeithas, wedi'u hallanoli gan wisg morwyn a chan y drefn o anwybyddu'u henw cyntaf a rhoi enw arall, mwy addas, iddynt. Er mai gweision a morynion oedd dros hanner gweithlu swyddogol Cymru, ar y cyfan roeddent yn weithwyr ynysig, heb gefnogaeth gydweithredol nac amddiffyniad undeb llafur.
Roedd menywod y dosbarth gweithiol yn gwneud eu gwaith tŷ eu hunain. Mae'r llun o Mrs George o Bont-y-pwl yn dangos pa mor drwm oedd gwaith tŷ cyn dyfodiad trydan, dwr poeth o'r tap a pheiriannau i wneud y gwaith. Yn aml mewn trefi glofaol, roedd rhaid cario dwr o dapiau yn y stryd a'i gynhesu dros y tân cyn ei arllwys i dwba mawr. Yna, byddai'r wraig yn dolian y dillad brwnt â golchbren. Roedd cadw lojwrs yn dod ag arian i'r tŷ ond roedd yn golygu rhagor o waith hefyd. Yn ôl ffigurau cyfrifiad 1891, roedd cynifer â chwech o lowyr mewn llawer o dai yn y Rhondda ac felly nid yw'n syndod bod Mrs.Gwen Davies yn teimlo y dylai'r 'gwragedd gael dwy bunt am olchi eu dillad...' Mae Kate Roberts yn tanlinellu hyn wrth alw i gof brofiadau ei mam yn ardal y chwareli llechi yn y Gogledd, 'Dyna chi'r gwaith caleta' gin wraig y tyddynnwr a'r chwarelwr oedd golchi ffustion.' Er bod y dull o olchi'n amrywio o ardal i ardal, roedd yn waith corfforol caled i fenywod ym mhob rhan o Gymru.
Roedd golchi dillad yn rhan o'r drefn wythnosol. Roedd yn rhaid i fenywod fod yn 'rheolwyr da iawn' ond, yn aml, roedd yr amodau'n wael, doedd ganddyn nhw ddim digon o le i weithio, dim dwr o'r tap ac roedd y trefniadau gwaredu gwastraff yn sâl. Roedd yr holl waith caled yn effeithio ar iechyd menywod. Oherwydd y gwaith, diffyg gwasanaeth lles, y ffaith eu bod yn cael llawer o blant a'r diffyg gofal meddygol, roedd cyfraddau marwolaeth yn y cymoedd glofaol yn uwch ymhlith y menywod nag ymhlith y glowyr eu hunain, fel y mae Dot Jones wedi'i bwysleisio.
Erbyn troad yr ugeinfed ganrif, roedd mwyafrif trigolion Cymru yn byw mewn trefi. Daeth y trefoli a'r diwydiannu â chyfleoedd gwaith 'newydd' i ferched ond roedd y rhain yn dal yn rhai cul a chyfyng. Yn yr hen felinau gwlân yr oedd y grwp mwyaf o bell ffordd o weithwyr ffatri Cymru'n gweithio. Yn Abertawe, aeth rhai menywod i weithio yn y gwaith tunplat newydd; roedd 7.8% o ferched y dosbarthiadau gweithio yn gweithio gyda metalau a pheiriannau ym 1891 o'i gymharu â 0.15% ym 1851. Mae Cecil Lewis yn sôn am ei fam a menywod eraill yn gweithio nes eu bod 'wedi bleino gormod i gysgu, a gormod o eisie bwyd i fyta.' Credai fod y gwaith yn, 'dishmoli menywod, on'd odd e? Gweld menywod yn gwitho fel'na.' Mae Mrs H. M. Walters yn cofio am rai o'r menywod a oedd yn gweithio yn yr iard frics yn yfed ac yn smocio pibau clai. Yn ôl tystiolaeth y ddau ohonynt, roedd y ffaith fod menywod yn gwneud gwaith mor gorfforol y tu allan i'r cartref yn herio'r hen ddelfrydau am fenyweidd-dra.
Ar y cyfan, roedd y trefoli a'r diwydiannu'n cynnig rhagor o gyfleoedd gwaith i bobl. Yng Nghymru, diwydiannau trymion a gafwyd yn bennaf gydag ychydig iawn o waith mewn ffatrïoedd. Felly, gellid dadlau, er bod rhagor o gyfleoedd i ddynion, mai llai o gyfleoedd am waith cyflogedig a gafwyd ar gyfer eu chwiorydd a'u merched ac, yn arbennig, eu mamau a'u gwragedd. Ym 1911 roedd un menyw o bob saith yn y Rhondda, ond un o bob tair yn Lloegr, yn gweithio am gyflog. Mae'r ystadegau ar gyfer menywod priod yn dangos hyd yn oed fwy o wahaniaeth, gyda llai nag un o bob ugain yng Nghymru ond un o bob deg yn Lloegr. Yn y Rhondda, un o bob pump ar hugain o fenywod priod oedd yn gweithio am gyflog, sef y gyfradd isaf trwy Brydain.
Erbyn 1911, roedd llai na 12% o weithwyr Cymru yn gweithio ar y tir. Nid oedd merched a oedd yn perthyn i'r penteulu ac yn helpu ar ffermydd heb eu talu yn cael eu cynnwys yn y ffigurau ar gyfer merched oedd yn gweithio ar ffurflenni'r cyfrifiad. Roedd y merched hyn yn ennill cyflog bychan trwy wneud gwaith tymhorol, rhan amser fel casglu cerrig o gaeau gwair.Y dybiaeth arferol, fel y noda'r Report of the Royal Commission on Land in Wales and Monmouthshire, 1896, yw bod y merched mwyaf abl, deallus ac uchelgeisiol yn gadael y tir ac felly bod 'tuedd i gyfyngu ar y gwaith y mae menywod yn ei wneud ar ffermydd i'r gorchwylion hynny na all dynion eu gwneud yn dda iawn.'
Roedd yn rhaid i blant fynychu ysgolion elfennol o 1880 ymlaen. Mewn sawl ffordd, roedd natur y pynciau a ddysgid yn ychwanegu at y gwahaniaeth, a oedd eisoes i'w weld yn y cartref ac mewn gwaith, rhwng byd merched a byd bechgyn. Roedd merched yn cael dysgu gwyddor tŷ a bechgyn yn dysgu gwyddoniaeth. O dan Ddeddf Addysg Ganolradd Cymru 1899, darparwyd rhwydwaith o ysgolion wedi'u cyllido ag arian cyhoeddus ar gyfer merched a bechgyn. Trwy ysgoloriaethau, gallai plant y dosbarth gweithiol gael addysg am ddim, er na allai pawb fforddio cymryd eu lle. Roedd llawer o ferched yn aberthu eu haddysg gan eu bod yn gorfod gweithio gartref, fel y dywed Mary Kingston:
A fe adawes i'r ysgol yn un ar ddeg ôd, achos odd whâr 'da fi. Fi'n credu mai meningitis ôdd arni ac odd hi'n marw, lawr llawr, dodd dim hospitals i fynd â hi prynny ac odd un yn iou, ac odd rhaid i fi garco'r babi. Wedyn geso i ddim rhagor o ysgol.
Roedd merched yn manteisio ar y cyfleoedd wrth i ddrysau newydd agor iddynt. Roedd addysg brifysgol yn hollbwysig er mwyn pontio'r gagendor rhwng dynion a merched a oedd mor amlwg yn y gweithlu. Agorodd ddrysau i ferched yn y byd proffesiynol a chaniatáu annibyniaeth ariannol iddynt. Ym 1893, cydnabu Siarter Prifysgol Cymru bod dynion a merched yn gyfartal ac, erbyn 1911, merched oedd 35% o'r myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru. Athrawon oedd y rhan fwyaf o'r merched proffesiynol, ond roeddent yn cael llai o gyflog na'r dynion. Mae'r ffotograff o Catherine Ellis yn cyfleu hyder newydd merched a allai fanteisio ar y newidiadau hyn. Mae'n ddiddorol sylwi faint o arweinwyr mudiad y suffragists oedd yn athrawon ac, hefyd, faint o ddylanwad seicolegol a gafodd addysg ar y merched hyn. tybed faint ohonynt oedd yn teimlo'u bod wedi'u dieithrio oddi wrth eu dosbarth, eu cenedl a'u rhyw? A hithau'n athrawes, ac wedyn yn berchen ar wasg argraffu, gallai Kate Roberts fforddio cadw morwyn, ond mae'n ddiddorol sylwi nad yw'n awyddus i sôn am ei phrofiadau ei hunan. Byd ei mam, a'r gwaith caled a wnâi menywod tebyg iddi yn y cartref, sy'n llenwi cynfas creadigol ei nofelau. O wrando ar ei thystiolaeth lafar, mae'n bwysig sylwi pa mor wahanol oedd ei byd hi i'r atgofion sydd mor agos at ei chalon.
Gwaith ffurfiol mewn siop, yn y wlad ac yn enwedig yn y dref, oedd un swydd a oedd yn agored i fenywod, er bod llawer rhagor o fenywod yn gwerthu ffagots neu gacennau, lemonêd neu gwrw yn anffurfiol. Yn aml, roedd gwragedd gweddwon, heb iawndal na phensiwn i'w cynnal, yn troi eu parlwr yn siop fach. Roedd cadw siop a siopa yn bwysig, nid yn unig fel ffynhonnell incwm, ond hefyd gan eu bod yn mynd â merched allan o'r cartref. Roedd siopau'n lleoedd i gymdeithasu ynddynt.
Roedd gweithgareddau hamdden yn amrywio yn ôl dosbarth cymdeithasol ac yn wahanol i ddynion a menywod fel y dengys y lluniau. Roedd gwnïo a chywiro dillad yn rhan o waith merched dosbarth gweithiol. Dynion oedd yn mynd i'r dafarn, clwb y gweithwyr a'r institiwt. Roedd hanner merched Cymru'n mynd i'r eglwys neu'r capel ond mynd i wrando yr oeddent; dynion oedd yn cymryd rhan yn gyhoeddus mewn gweithgareddau crefyddol. Ond roedd y capel neu'r eglwys, ac yn enwedig y gweithgareddau ymylol, yn rhoi cyfle i ferched wneud mwy na chymdeithasu yn unig, a byddai ambell drip Ysgol Sul yn gyfle prin i adael y filltir sgwâr. Fel y dangosodd Ceridwen Lloyd Morgan, roedd y Mudiad Dirwestol yn rhoi cyfle i ferched dosbarth canol i wneud gwaith trefnu ac i siarad yn gyhoeddus, er mai eu nod oedd atgyfnerthu'r ddelwedd o'r ferch Gymreig barchus. Tybed sut y byddent wedi ymateb i ferched fel y rhai a welir yn y llun yn Mary Ann Street, Caerdydd.
Roedd y tri phrif grwp o ymgyrchwragedd o blaid y bleidlais i ferched yn weithgar yng Nghymru. Mae'n debygol bod y merched yn y cyngerdd a welir yn y llun yn aelodau o'r grwp mwyaf o'r rhain - the National Union of Women's Suffrage Societies (NUWSS), a oedd ag o leiaf 28 o gymdeithasau yng Nghymru erbyn 1913. Sefydlwyd y gyntaf ohonynt yn Llandudno ym 1907. Yng 'ngwlad y gân' pa well ffordd o gyfleu neges wleidyddol na chynnal cyngerdd?! Roedd yr aden filwriaethus, 'the Women's Social and Political Union' (WSPU), yn llai llwyddiannus yma, gan sefydlu pum cangen yn unig yng Nghymru. Fodd bynnag, denwyd llawer o ymgyrchwyr milwriaethus i Gymru gan bresenoldeb Lloyd George. Roedd Margaret Haig Mackworth, Is-iarlles Rhondda, yn pleidio ymgyrchu milwriaethus ac yn This Was My World mae'n dweud bod ymgyrchu wedi gwneud iddynt deimlo bod ganddynt bwrpas a diben ar wahân i gael plant. Ar ôl ffrwydro blwch post yng Nghasnewydd ym 1913, cafodd ei charcharu ac aeth ar streic newyn.
Newidiodd y sefyllfa gyda dyfodiad y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn 1915, roedd llawer o fenywod wedi dechrau gweithio yn y ffatrïoedd arfau. Roedd menywod yn gweithio ym meysydd cludiant, peirianneg a diwydiant trwm - a oedd yn cael eu cyfrif yn waith i ddynion cyn hynny. Bu cynnydd yn nifer y menywod a oedd yn aelodau o undebau llafur hefyd. Ond, yn ogystal, bu'r rhyfel o gymorth i gadarnhau'r darlun traddodiadol o fenywod fel gwragedd a mamau yn y cartref.