Cymryd Rhan
Yma fe welwch chi'r holl ffyrdd gwahanol o Gymryd Rhan gyda ni yn Amgueddfa Cymru! Mae angen pobl fel chi i wirfoddoli eich amser, mynegi barn, ein helpu i greu digwyddiadau ac arddangosfeydd, a sicrhau ein bod ni'n berthnasol i bobl Cymru heddiw. Mae gennym ni ffyrdd newydd o gymryd rhan yn rheolaidd yn dibynnu ar beth mae'n cymunedau am i ni ei ddatblygu a'r projectau rydyn ni’n eu creu gyda chi.