Digwyddiad:Leusa, Hannah & Gwyneth! Dewch i gwrdd a chymeriadau'r Amgueddfa

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

Dewch i fwynhau perfformiadau arbennig gyda'n actorion preswyl wrth iddynt ddod a straeon y chwareli yn fyw! Bydd cyfle hefyd i gyfarfod â chymeriad newydd sbon - sef Gwyneth - gwraig tŷ 1969 ein Tai Chwarelwyr. 

DIWRNOD LEUSA                                                     

Ymunwch â Leusa - gwraig Chwarelwr - sydd yn byw yn Rhif 2 Fron Haul, wedi ei ddodrefnnu i gyfnod 1901 ym Methesda!  Fydd Leusa yn sôn am yr amser caled sydd yn effeithio hi a'i theulu yn ganol Streic Fawr y Penrhyn yn 1901!  

Lleoliad: Tŷ 1901 Tai’r Chwarelwyr

Sadwrn 26 Hydref  /  Dydd  Mawrth 29 Hydref /  Dydd Mercher 30 Hydref  / Dydd Gwener 1 Tachwedd  /    Dydd  Sadwrn 2 Tachwedd  / 12pm – 4pm

     

DIWRNOD HANNAH     

Dewch i ddarganfod mwy am y Tŷ Peiriannydd a'r pethau sydd ynddo a beth mae Hannah angen ei wneud yn ddyddiol  gadw trefn yn y ty! 

 Lleoliad: Tŷ’r Peiriannydd

 Sul 27, 28,   31 Hydref,  3 Tachwedd   /   12pm - 4pm

 

DIWRNOD GWYNETH 

Mae’n 20 Awst 1969 – yn ystod pythefnos o wyliau blynyddol yn y chwarel, a mae Gwyneth – gwraig yn ei 60au cynnar yn glanhau’r tŷ sy’n llawn  ‘mod-cons’ – tân trydan a glanhawr ewbank!  Clywch am hanes yr arwisgo yng Nghaernarfon a’r gobeithion sydd gan Gwyneth i’w mhab sydd newydd gychwyn astudio ym Mhrifysgol Bangor yn hytrach na gweithio yn y chwarel fel ei Dad a fu farw’n ddiweddar o silicosis! 

Lleoliad: Tŷ 1969- Tai’r Chwarelwyr                                                        

Dydd Mercher 30 Hydref /  12pm - 3pm

Perfformiadau Cymraeg ar yr awr, perfformiadau Saesneg am hanner awr wedi. 

Bydd cyfle i ymuno a sgwrs hwyliog a rhannu atgofion yn dilyn y perfformiad olaf am 3pm.

Gwybodaeth

26 Hydref–3 Tachwedd 2024, 12pm - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Dim angen bwcio - sesiynau galw mewn!
Mae dynes yn sefyll tu allan i dy Chwarelwr bach yn gafael mewn arwydd 'nid oes bradwr yny tŷ hwn'

Diwrnod Leusa yn y tŷ Chwarelwr o 1901

Gwyneth Robaits sydd wedi'i lleoli yn Tŷ 1969 Fron Haul 

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau