Digwyddiad:Gweithgaredd Gwirfoddoli: Creu Addurniadau Nadolig Traddodiadol
Gweithgaredd Gwirfoddoli!
Hoffech chi ddod draw i’r Amgueddfa Lechi Cymru i helpu ni greu addurniadau Nadolig?
Eleni, mae Cadi Iolen, ein curadur, yn awyddus i wahodd helpwyr i greu addurniadau, a chreu awyrgylch Nadoligaidd ar gyfer ymwelwyr y gaeaf hwn!
Byddwn yn creu cadwynau celyn, oren a phapur ac orennau fictoriadd i siwtio cyfnodau 1861, 1901, 1911 a 1969 i’w dangos drwy gydol mis Rhagfyr!
Byddwn yn cynnal sesiynau ar 29ain o Dachwedd.
Mae’r gweithgaredd AM DDIM ond dylid trefnu eich lle erbyn 28 Tachwedd drwy gysylltu â chloe.ward@museumwales.ac.uk
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
18 Mawrth - 3 Tachwedd 2024
Ar agor yn ddyddiol 10am - 5pm
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Parcio
Mae digonedd o le parcio i geir a bysiau. Codir tâl am barcio.
Cyngor Gwynedd sy'n berchen ar faes parcio Maes Parcio Gwledig Padarn ac yn ei weithredu. Mae'r parcio'n costio £4.50. Mae’n bosib talu a cherdyn (www.paybyphone.co.uk/ neu defnyddiwch yr app ffôn / Lleoliad 804552) Os mai dim ond gydag arian parod y gallwch dalu, byddwch yn ymwybodol na allwn gyflenwi newid ar hyn o bryd.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd