Digwyddiad:Gweithdy K'Nex

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

Sut mae creu'r car sy'n teithio bellaf drwy ddefnyddio K'Nex? Ydych chi â'ch teulu (hyd at 5 mewn tîm) yn barod am yr her honno? Beth am ymuno â Sbarduno mewn gweithdy 2 awr lle bydd eich tîm yn dylunio, adeiladu a rasio ceir K’Nex. Tybed a'i eich car chi fydd yn curo'r record sydd wedi'i osod ar bellter o 10 medr?

Mae'r gweithdy yn gyfle i ddatblygu sgiliau allweddol megis gwaith tîm, datrys problemau, creadigrwydd ac wrth gwrs sgiliau STEM. 

 

Sesiwn Gymraeg - Gorffennaf 31ain 

Sesiwn ddwyieithog - Awst 1af 

 

Tocynnau 

Gwybodaeth

31 Gorffennaf–1 Awst 2023, 13:00 - 15:00
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

18 Mawrth - 3 Tachwedd 2024     
Ar agor yn ddyddiol 10am - 5pm

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

Cyfeiriad

Llanberis
Gwynedd
LL55 4TY

Map a Sut i Gyrraedd Yma

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Parcio

Mae digonedd o le parcio i geir a bysiau. Codir tâl am barcio.
Cyngor Gwynedd sy'n berchen ar faes parcio Maes Parcio Gwledig Padarn ac yn ei weithredu. Mae'r parcio'n costio £4.50. Mae’n bosib talu a cherdyn (www.paybyphone.co.uk/ neu defnyddiwch yr app ffôn / Lleoliad 804552)  Os mai dim ond gydag arian parod y gallwch dalu, byddwch yn ymwybodol na allwn gyflenwi newid ar hyn o bryd.

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau