Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ydych chi eisiau gwybod mwy am yr hyn fydd yn digwydd fel rhan o'n ail-ddatblygiad?
Os felly dewch i ymuno ag un o'n teithiau Camau Nesaf!
Byddwn yn esbonio be fydd yn cael ei warchod, ei wella a’i drawsnewid dros y ddwy flynedd nesaf, a sut y byddwn yn gweithio â chymunedau amrywiol yr ardal i ddatblygu’r ystod o straeon sy’n cael eu hadrodd ar y safle.
Cewch glywed sut mae mynd ati i symud miloedd o wrthrychau oddi ar y safle yn ddiogel ynghyd a chlywed am yr hyn y byddwn yn ei wneud yn ystod 2025.
Mae'r teithiau ar gael ar y dyddiau canlynol:
Sadwrn 26 Hydref / Dydd Llun 28 Hydref / Dydd Mercher 30 Hydref
Dydd Gwener 1 Tachwedd / Dydd Sadwrn 2 Tachwedd / Dydd Sul 3 Tachwedd
11am-12pm & 2pm -3pm
Mae'r teithiau AM DDIM ond rhaid trefnu lle ymlaen llaw. Ebostiwch llechi@amgueddfacymru neu ffoniwch 02920 573700.
Ariennir prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru gyda nawdd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU trwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru a a chyllidwyr eraill.
I ddarganfod mwy am y prosiect ail-ddatblygu ewch i: https://amgueddfa.cymru/llechi/ailddatblygu
Golygfa o'r Iard gefn a'r caffi a chanolfan addysg arfaethedig
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd