Digwyddiad:Gweithdy Torchau Rhacs
Gan ddefnyddio technegau creu matiau rhacs traddodiadol, dewch i ddysgu sut i wneud torchau Nadolig hardd ar gyfer eich cartref yn y gweithdy ymarferol hwn. Mae'r gweithdai yn rhan o Nadolig yn y Parc yr Amgueddfa a tenantiaid eraill Parc Padarn a bydd nifer o ddigwyddiadau ymlaen yn ystod y diwrnod! Dewch i ymuno yn y dathlu!
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae'r tocynnau fesul torch, gyda hyd at ddau oedolyn a dau blentyn i bob torch.
Mae’r gweithgaredd yma yn rhan o brosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru a gyllidir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â chymorth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o'r Llechi, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston ac arianwyr eraill.
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 28 Tachwedd 2026 | Sold Out | |
| 28 Tachwedd 2026 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
| 28 Tachwedd 2026 | 14:00 | Gweld Tocynnau |
| 28 Tachwedd 2026 | 15:00 | Gweld Tocynnau |
| 29 Tachwedd 2026 | 12:00 | Gweld Tocynnau |
| 29 Tachwedd 2026 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
| 29 Tachwedd 2026 | 14:00 | Gweld Tocynnau |
| 29 Tachwedd 2026 | 15:00 | Gweld Tocynnau |
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd