Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae rhan helaeth o’n gwrthrychau bellach wedi’u cludo’n ddiogel i’n Canolfan Gasgliadau arbenigol i’w cadw’n saff, ac mae’r cam nesaf yn hanes yr Amgueddfa wedi dechrau gyda dechrau’r gwaith adfer.
Ymunwch â ni am gipolwg arbennig y tu ôl i’r llenni o ein gofodau hanesyddol wrth i waith adfer ac ailddatblygu barhau.
Byddwn yn eich tywys o amgylch y safle ac yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am yr hyn sydd wedi digwydd a fydd yn digwydd i'r mannau arbennig hyn fel rhan o'r project ail-ddatblygu cyffrous.
Mae’r teithiau AM DDIM ond rhaid trefnu eich lle ymlaen llaw yma: Teithiau Camau Nesaf - Ymweliad Hetiau Caled | Amgueddfa Cymru
Bydd y daith yn cael ei gynnal tu mewn a tu allan ar safle adeiladu gweithredol, lle gall fod yn oer ac yn anwastad, felly mae'n ofynnol i chi gwisgo dillad cynnes ac esgidiau priodol (er enghraifft; esgidiau cerdded). Yn anffodus, nid yw’r safle’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn nac i rai â symudedd cyfyngedig. Gofynnir i ymwelwyr ddilyn pob cyfarwyddyd diogelwch yn ystod y daith.
Bydd aelod o’r tîm ar gael drwy gydol y daith i sicrhau eich diogelwch a’ch cynorthwyo os oes angen.
Mae’r gweithgaredd yma yn rhan o brosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru a gyllidir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â chymorth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o'r Llechi, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston ac arianwyr eraill.
I ddarganfod mwy am y prosiect ail-ddatblygu ewch i: https://amgueddfa.cymru/llechi/ailddatblygu
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd