Digwyddiad:Taith gerdded: Olion y diwydiant llechi, Parc Padarn

Amgueddfa Lechi Cymru

Dewch i ddilyn taith y lechen gyda staff Amgueddfa Lechi Cymru o gwmpas Parc Padarn. Cewch gyfle i glywed am hanes y chwarelwyr ar y graig ac yn y gwaliau, ac i ddeall mwy am chwarel Vivian, inclên a’r ‘Blondin’.

Map o'r daith:

Map o daith gerdded: olion y diwydiant llechi, parc padarn.
  • Rydym yn cynnig teithiau yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wahân. Sicrhewch eich bod yn archebu'r daith yn yr iaith sydd ei hangen arnoch.
  • Oedran addasrwydd: 8+
  • Bydd teithiau yn para 1 awr. 
  • Byddwn yn cychwyn ym maes parcio'r Gilfach Ddu wrth yr arwydd llechen Gilfach Ddu, ac yn gorffen y daith ger Ysbyty Chwarel Dinorwig.
  • Mae'r daith gerdded hon yn anaddas i bobl sydd ag anghenion mynediad oherwydd natur y dirwedd a llwybrau serth, cul. Bydd angen esgidiau cadarn er mwyn ymuno â’r daith. Os nad ydych yn gwisgo esgidiau addas, ni fydd modd i chi ymuno â ni.
  • Os bydd rhagolygon am dywydd garw, bydd penderfyniad i ohirio neu ganslo’r daith yn cael ei rannu'r prynhawn cynt.
  • Mae croeso i gŵn ond iddynt fod ar dennyn gydol y daith.

Gyda’r tocynnau rhataf yn £1, rydyn ni’n eich annog chi i dalu beth allwch chi. Gofynnwyd i grwpiau o 6 neu fwy gwneud ymholiadau ymlaen llaw drwy e-bost i chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk.

Logo yn llawn logos ariannwyr

Gwybodaeth

Dydd Mawrth 25 Awst 8, 15, 22 & 29 Medi, 11:30AM & 2:00PM
Pris Gyda’r tocynnau rhataf yn £1, rydyn ni’n eich annog chi i dalu beth allwch chi.
Addasrwydd 8+
Y Blondin - Chwarel Vivian

Y Blondin - Chwarel Vivian

Wagenni y Chwarelwyr

Wagenni Chwarelwyr - Parc Padarn

Delweddau y diwydiant Llechi

Delweddau Diwydiannol

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
25 Awst 2026 Sold Out  
25 Awst 2026 Sold Out  
1 Medi 2026 11:30Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
1 Medi 2026 14:00 Gweld Tocynnau
8 Medi 2026 11:30Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
8 Medi 2026 14:00 Gweld Tocynnau
15 Medi 2026 11:30Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
15 Medi 2026 14:00 Gweld Tocynnau
22 Medi 2026 11:30Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
22 Medi 2026 14:00 Gweld Tocynnau
29 Medi 2026 11:30Sesiwn Gymraeg Gweld Tocynnau
29 Medi 2026 14:00 Gweld Tocynnau

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau