Digwyddiad: Arddangosiadau

Arddangosfa Hollti a Naddu Llechi

Y Gof wrth ei waith

Dewch i fwynhau un o'n teithiau cerdded, sgyrsiau neu arddangosiadau!
HOLLTI A NADDU LLECHI
Dewch i ryfeddu at sgiliau ein chwarelwyr wrth iddynt hollti a naddu'r llechi yn ein arddangosiadau poblogaidd!
Yn ogystal a hollti'n grefftus, mae ein crefftwyr hefyd yn creu gweithiau crefft yn galonnau, fframiau lluniau a gwyntyllau cymleth.
Amseroedd: Yn ddyddiol- gofynnwch am amseroedd wrth gyraedd.
GWAITH Y GOF
Galwch heibio'r Efail i weld ein Gof wrth ei waith!
Er fod pob gweithdy gyda rhan pwysig ei hun i'w chwarae yng ngwaith y Gilfach Ddu, yr Efail, ar lawer ystyr, oedd wrth galon y gwaith!
Dyma lle deuai llawer o fân gydrannau a gynhyrchwyd mewn rhannau eraill o'r iard ynghyd - yn sprocedi neu gadwyni, echeli ac olwynion.
Heddiw mae ein gof yn parhau i gefnogi gwaith yr Amgueddfa gyda'i sgiliau ond yn ogystal yn creu eitemau unigol hardd i'w gwerthu yn y siop - i gyd wrth ddangos ei grefft i'n hymwelwyr.
Amseroedd: Oherwydd mai ond un gof sydd gennym yn yr amgueddfa, nid yw arddangosiadau yn cymeryd ffurf rheolaidd dyddiol, ond ar gael ar brydiau gwahanol pob wythnos. Cysylltwch â ni drwy ffonio 02920 573700 i holi os yw'r gof yn dangos ar ddiwrnod eich ymweliad