Llogi yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Adeilad neoglasurol gyda phedair colofn fawr, pediment trionglog a drws gwydr. Awyr las yn y cefndir a choeden i'r chwith.

Camwch yn ôl mewn amser ac archwilio bywyd yn allorsaf bellennig yr Ymerodraeth Rufeinig nerthol. Wedi'i lleoli ddeng munud o'r M4, mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru’n cynnig cyfleusterau hygyrch, cyfleus a chipolwg ar ein hanes hynafol ni.

Mae'r safle wedi'i drwytho yn hanes hynafol Cymru. Mae ein hystafell gyfarfod fach a hyblyg yn lle unigryw i gynnal cyfarfodydd, cyflwyniadau neu ddiwrnodau cwrdd i ffwrdd. Mae ein horielau’n ddelfrydol ar gyfer derbyniadau anffurfiol neu ddigwyddiadau rhwydweithio yng nghanol Caerllion. Mwynhewch rywbeth fymryn yn arbennig gyda derbyniad diodydd yn ein gerddi Rhufeinig.

Cysylltwch â ni i ganfod mwy am yr hyn sydd gan Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i'w gynnig, prisiau ac i ddechrau cynllunio eich digwyddiad. Edrychwn ymlaen at estyn croeso cynnes i chi i'r amgueddfa.

Fel elusen gofrestredig, bydd pob digwyddiad a gynhelir gennych gyda ni yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru’n perthyn i bawb a'i bod yma i bawb ei ddefnyddio, gan gynnwys ein holl waith arddangos, cymunedol ac addysgol.

Gwybodaeth