Stiwdios

Ystafell ddosbarth fodern gyda chadeiriau lliwgar, bwrdd gwyn mawr, sgrin taflunydd a thrawstiau nenfwd concrit.

Fel darparwr dysgu mwyaf Cymru y tu allan i'r ystafell ddosbarth, mae gennym amrywiaeth o leoedd yn barod ar gyfer gweithdai, cyfarfodydd, cyflwyniadau a sesiynau meithrin tîm, gan gynnwys ein stiwdios modern yn ein prif adeilad.

Maen nhw’n ystafelloedd golau braf, gydag offer clyweledol, y gellir eu haddasu ar gyfer arddull theatr, ystafell ddosbarth, neu ystafell bwrdd. Mae’r stiwdios o fewn pellter cerdded hwylus i’n prif fynedfa a’r Atriwm, i fyny rhes fach o risiau. O ran hygyrchedd, mae lifft yn syth o'r llawr gwaelod, a thoiledau ar yr un lefel gan gynnwys toiled hygyrch.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth, gan gynnwys opsiynau arlwyo.

Mae prisiau llogi’r lleoliad unigryw hwn yn dechrau o £535 + TAW, ond mae'n dibynnu ar y gofynion a hyd y cyfnod llogi. Cysylltwch â'n tîm ymroddedig i gael dyfynbris.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.

Cysylltwch â ni

  • Ystafell fodern eang gyda lloriau pren, wal acen werdd, cypyrddau a chownteri pren ar hyd un ochr.
  • Ystafell fodern wag gyda llawr pren, nenfwd uchel gyda thrawstiau concrit agored a wal acen werdd uwchben cypyrddau a sinciau.
  • Ystafell ddosbarth gyda disgyblion yn eistedd wrth fyrddau, yn wynebu athro yn cyflwyno sleid sy'n darllen 'What is a habitat?' ar sgrin.
  • Athro yn cyflwyno wrth fwrdd gwyn rhyngweithiol mewn ystafell ddosbarth tra bod disgyblion yn eistedd wrth fyrddau yn gwylio'n astud.
  • Ystafell ddosbarth gyda disgyblion yn eistedd wrth fyrddau yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, gyda lloriau pren, wal acen werdd a chabinetau mawr.