Hanes Mwnyddiaeth yng Nghymru

Hanes Mwnyddiaeth yng Nghymru

Y Chwilwyr Mwynau Cyntaf

O waith ymchwil archaeolegol mewn nifer o fwyngloddiau yng Nghymru, fe wyddom ni bod pobl canol yr Oes Efydd wedi bod wrthi’n chwilio ac yn mwyngloddio am fwynau copr tua 1,500 mlynedd cyn i’r Rhufeiniaid ddod i’r wlad. Byddai’r gallu i: a) enwi mwynau; b) gwahaniaethu rhwng y mwynau defnyddiol a’r lleill; ac c) dehongli dyddodion mwynau yn syml, wedi bod mor bwysig i’r chwiliwr llwyddiannus (neu’r mwynolegydd) ag y mae e heddiw.

Yn y 3,500 o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers y cyfnod hwnnw, mae mwynau wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru. O’r Rhufeiniaid, i’r Mynachod Sisteraidd, i gymeriadau mawr mwyngloddio’r 17eg ganrif fel Thomas Bushell ac eraill, ac ymlaen i oes aur mwyngloddio metel yng Nghymru ganol y 19eg ganrif pan adeiladwyd ceuffyrdd a suddwyd siafftiau bas i weithio pob gwythïen neu ffawt oedd yn brigo dros wyneb y ddaear – maen nhw i gyd wedi gweithio mwynau metalifferaidd ac wedyn mwynau “sbar”. Mae aur, plwm, arian, copr, sinc a manganîs wedi bod yn ffocws sylw, tra bod ymdrechion wedi cael eu gwneud i gyrraedd cobalt, arsenic, antimoni, barytes a chalsit â gwahanol lefelau o lwyddiant. Wyddom ni ddim faint o bob mwyn a gynhyrchwyd – a hynny’n bennaf am mai ychydig iawn o gofnodion a gadwyd am y mwynau gafodd eu codi, eu naddu i’w dwysáu (y broses a ddefnyddir i dynnu deunydd gwastraff fel gwythiennau cwarts o greigiau llawn sylffid) a’u gwerthu. Mae cyfanswm y mwynau a gynhyrchwyd yng Nghymru felly’n cynrychioli canran anhysbys o’r cyfanswm.

Roedd rhai o’r mwyngloddiau o bwys Ewropeaidd oherwydd eu maint. Roedd y rhain yn cynnwys Mynydd Parys, Ynys Môn (copr – 18fed ganrif) a Van, ger Llanidloes ym Mhowys (plwm a sinc – 19eg ganrif). Tyfodd cymunedau cyfan o gylch y canolfannau llewyrchus hyn. Mae hyn yn gallu bod yn anodd ei ddychmygu, yn arbennig ganol gaeaf yn Nylife, gogledd Powys er enghraifft (a sawl lle tebyg arall). Doedd rhai o’r safleoedd eraill yn ddim mwy nag arbrofion ar hap, gyda’r nod o godi cyfalaf mentro ar y farchnad stoc a dim byd mwy. Roedd natur anghysbell rhai rhannau o Gymru yn ystod y 19eg ganrif yn ei gwneud hi’n arbennig o agored i fentrau diegwyddor lle sychodd cyflenwadau gwych o fwynau ar ôl sicrhau’r cyfalaf ar gyfer y datblygiad. Yn y cyfamser, syrthiodd nifer fawr o fwyngloddiau rhwng y ddwy stôl. Mae hanes mwyngloddio yng Nghymru’n bwnc difyr a chymhleth sydd wedi ei gofnodi’n dda, yn enwedig yn nhermau’r 250 mlynedd diwethaf.

CYHOEDDIADAU ALLWEDDOL:

Bick, D. E, 1993. The Old Metal Mines of Wales, Rhannau 1-6. Pound House, Newent.
Bick, D. E. 1985: The Old Copper Mines of Snowdonia. Ail Argraffiad, Pound House, Newent.
Davies, P. B. S. 1995. Forgotten Mines (The old lead and copper mines of Solva and St Davids (Merrivale, Tyddewi).
Hall, G. W. 1993. Metal Mines of Southern Wales. Ail Argraffiad. Griffin Publications, Sir Henffordd.
Hall, G. W. 1990. The Gold Mines of Merioneth. Ail Argraffiad. 99pp. Griffin Publications, Kington.
Hall, G. W. 1995. The Minera Mines from 1849. Yn: Bennett, J. (Gol.): Minera Lead Mines & Quarries. Cyngor Bwrdeistref Wrecsam Maelor, p45-67.
Hughes, S. J. S. 1981. The Cwmystwyth Mines. British Mining No. 17. Northern Mines Research Society.
Hughes, S. J. S. 1988. The Goginan Mines. British Mining No. 35. Northern Mine Research Society.
Hughes, S. J. S. 1990. The Darren Mines. British Mining No. 40. Northern Mine Research Society, 131-141.

Ar Drywydd Mwynoleg Yng Nghymru

Yng nghyd-destun casglu mwynau er mwyn casglu mwynau, mae mwynoleg yn weithgaredd â hanes cymharol fyr yng Nghymru. Mae hyn yn hollol groes i’r canrifoedd niferus pan roedd mynd mawr ar gasglu mwynau fel mwynau metel. Dechreuodd y naturiaethwyr bonheddig oedd yn ffynnu yn y 18fed a’r 19eg ganrifoedd roi jig-so Mwynoleg Cymru at ei gilydd. Mae’r jig-so’n dal i fod yn anghyflawn am fod cofnodion am rywogaethau sy’n newydd i Gymru yn cael eu gwneud a’u cyhoeddi bron bob blwyddyn bron.

Ym 1858, cyhoeddodd Robert Philips Greg a William Garrow Lettsom eu llyfr enwog Mineralogy of Great Britain and Ireland. Y llyfr yma oedd yr ymgais gyntaf i restru a disgrifio holl fwynau’r Deyrnas Unedig. Rhestrwyd cyfanswm o 241 o rywogaethau o fwynau. O’r rhain roedd 47 yn codi’n lleol yng Nghymru. Mwynau a ffeindiwyd wrth fwyngloddio a chwarela oedd y rhan fwyaf o’r rhywogaethau a enwyd – dyna pam bod y mwynau cyffredin a chynnyrch newid copr, plwm a sinc yn codi yn y rhestr, ac aur hefyd. Ond nid oedd y gwaith yn gynhwysfawr. Er enghraifft, cafodd disgrifiad o analsim o Fôn a gyhoeddwyd gan J. S. Henslow (tiwtor Charles Darwin fel mae’n digwydd) ym 1822, ei hepgor.

Yn wahanol i ardaloedd mwyngloddio eraill, fel Dyfnaint a Chernyw, ni ddaeth prynwyr a gwerthwyr mwynau a chwilwyr sbesimenau yn llu i feysydd mwynau Cymru. Ond roedd ambell i eithriad, gan gynnwys y naturiaethwr enwog o’r 18fed ganrif, Thomas Pennant (1726-1792) oedd yn arbennig o weithgar yn ei ardal leol (ardal Halcyn yn y gogledd-ddwyrain). Mae casgliad mwynau ei gyfoeswr o Gernyw, Philip Rashleigh, yn cynnwys sbesimenau o’r ardal yma: yn ddiddorol ddigon, roedd Mr Pennant yn cyflenwi sbesimenau ar gyfer Rashleigh.

Cafodd mwynoleg yng Nghymru hwb yn y 19eg change to early 20th Centuary ganrif ddiweddar pan gasglwyd llawer o ddeunydd pwysig gan Brif Arolygydd Mwyngloddiau’r Gogledd ar y pryd, G. J. Williams. Byddai llawer o fwynolegwyr modern yn genfigennus iawn o’i swydd. Yn ystod ei deithiau o gwmpas mwyngloddiau ledled y gogledd yn rhinwedd ei swydd, byddai’r cyfleoedd i gasglu sbesimenau cyfoes cywrain wedi bod yn doreithiog. Daeth deunydd Williams i ddwylo Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1927.

Er gwaethaf y dirywiad graddol yn niwydiant mwyngloddio Cymru, tyfodd y diddordeb ym mwynau Cymru’n raddol gydol yr 20fed ganrif. O’r 1960au ymlaen, gwelwyd ymchwydd mawr yn niferoedd y casglwyr amatur. Mae argaeledd microsgopau wedi ein galluogi ni i ystyried mwynau microrisialaidd (oedd yn aml yn hynod o brydferth o dan y chwyddwydr). Arweiniodd hyn at ddarganfod llawer o rywogaethau prin o fwynau yng Nghymru diolch i ymroddiad sawl mwynolegydd amatur.

Oherwydd hyn, pan gyhoeddwyd argraffiad cyntaf Mwynoleg Cymru ym 1994, roedd e’n cynnwys cyfanswm o 340 o rywogaethau o fwynau. Felly mae nifer y rhywogaethau yng Nghymru wedi lluosogi i saith gwaith ei maint yn y 136 mlynedd ers gwaith Greg a Lettsom. Ond yr ystadegyn mwyaf trawiadol ohonyn nhw i gyd yw bod 161 (h.y. bron i hanner) o’r 340 o rywogaethau o fwynau a restrwyd yn yr argraffiad cyntaf wedi cael eu darganfod yn y cyfnod 1960-1994, trwy waith academyddion ac amaturiaid.