Mwynoleg yn Amgueddfa Cymru

Mwynoleg yn Amgueddfa Cymru

Mae gwreiddiau Casgliad Mwynau Amgueddfa Cymru yng nghasgliadau hen Amgueddfa Caerdydd. Roedd llawer o sbesimenau o Gymru yn y casgliad, gan gynnwys rhai S. Vivian, rheolwr Mwynglawdd Haearn Llanhari. Cafodd y casgliadau eu cyfoethogi’n sylweddol wrth brynu deunydd G. J. Williams ym 1927. Roedd y casgliad pwysig yma o sbesimenau’n cynnwys llawer o ddeunydd clasurol a gasglwyd o fwyngloddiau yn y canolbarth a’r gogledd. Cafodd y casgliad ei gyfoethogi eto gan y Ceidwad Daeareg cyntaf, F. J. North, a gyhoeddodd ddeunydd ac a fagodd ddiddordeb mewn mwynoleg, ac yn enwedig mwynoleg maes glo’r de (e.e. North, 1916, North a Howarth, 1928).

Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y Casgliad Mwynau yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, ar ffurf Casgliad King a ddaeth i law ym 1983 a gwahanol gasgliadau ymchwil eraill. Mae’r rhain yn cynnwys casgliadau J. N. Firth (mwynau maes glo’r de), J. W. G. Gilbey (llain aur Dolgellau), J. S. Mason (maes mwynau’r canolbarth), ac R. Metcalfe (mwynau hydrothermol Llanfair-ym-Muallt). Casglwyd llwyth o fwynau pellach yn ystod project MINESCAN (1996-2000) gan beri bod y Casgliad Mwynau’n cynrychioli’r adnodd ymchwil mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael am fwynoleg Cymru.

Roedd MINESCAN, project partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, yn cynnwys ymweliadau maes â phob mwynglawdd metel ac ardal mwynol arall yng Nghymru i asesu eu pwysigrwydd fel safleoedd mwynolegol a/neu fetelifferaidd. Yn ystod yr astudiaeth pedair blynedd yma (1996-2000), daeth nifer o safleoedd (a sbesimenau) mwynoleg newydd i’r golwg ac mae llawer o’r data newydd a gyflwynir yma’n codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o MINESCAN.

Cyhoeddiadau

North, F. J., 1916. The minerals of Glamorgan. Transactions of the Cardiff Naturalists' Society, 49, 16-51.
North, F. J. a Howarth, W. E., 1928. On the occurrence of millerite and associated minerals in the Coal Measures of South Wales. Proceedings of the South Wales Institute of Engineers, 44, 325-348.
Bevins, R. E. a Mason, J. S., 1997. Welsh metallophyte and metallogenic evaluation project: Results of a minesite survey of Dyfed and Powys. CCW Contract Science Report No. 156, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Bevins, R. E. a Mason, J. S., 1998. Welsh metallophyte and metallogenic evaluation project: Results of a Minesite Survey of Gwynedd. Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Bevins, R. E. a Mason, J. S., 1999. Welsh metallophyte and metallogenic evaluation project: Results of a Minesite Survey of Clwyd. Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Bevins, R.E. a Mason, J.S., 2000. Welsh metallophyte and metallogenic evaluation project: Results of a Minesite Survey of Glamorgan and Gwent. Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

SUT I DDEFNYDDIO CASGLIAD AMGUEDDFA CYMRU

Nod Amgueddfa Cymru yw sicrhau bod gwybodaeth a samplau ar gael i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. I weld data neu samplau MINESCAN neu rai eraill Amgueddfa Cymru, llenwch y ffurflen adborth electronig neu cysylltwch â ni drwy’r post neu alwad ffôn

.