Trosolwg o’r Prosiect
Cododd y wefan o broject mewn partneriaeth rhwng Adran Ddaeareg Amgueddfa Genedlaethol Cymru (AOG) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCC). Ni fyddai’r bartneriaeth wedi bodoli heb gymorth Dr S. Campbell a Dr R. Mathews (CCC). Mae’r data mwynau’n ffurfio argraffiad newydd a gwell o A Mineralogy of Wales a gyhoeddwyd Dr R.E. Bevins, Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae’n cynnwys 40 o gofnodion mwynau newydd sydd wedi eu cadarnhau. Daeth llawer o’r data newydd yma o broject partneriaeth CCC-AOG MINESCAN (1996 – 2000).
Ein gobaith ni yw y bydd y wefan yma’n hybu gwerthfawrogiad ehangach o dreftadaeth mwynau Cymru. Gall casglu mwynau fod yn bwnc llosg, a’n nod ni yw hyrwyddo dulliau cyfrifol o gasglu. Dyma dri cham syml i ategu hyn:
- Sicrhau bod perchennog cyfreithiol y safle yn rhoi caniatâd i chi fynd i’r safle, a sicrhau eich bod chi’n cael unrhyw ganiatâd ychwanegol cyn mynd i safleoedd sy’n cael eu gwarchod (e.e. Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
- Meddwl am yr ardal lle rydych chi’n casglu. A fydd y gwaith yn difa brigiad naturiol sy’n cael ei warchod neu a fydd casglu’n diogelu deunydd a fyddai wedi cael ei ddifetha gan waith chwarela fel arall?
- Ystyried pwysigrwydd gwyddonol y sbesimenau a gesglir – cofnodi beth, ble a sut cafodd y sbesimenau eu casglu a rhannu gwybodaeth newydd neu arbennig â’r gymuned wyddonol trwy amgueddfa neu adran mewn prifysgol.
- I gael rhagor o wybodaeth am waith cadwraeth, cysylltwch â’r Cyngor Cefn Gwlad neu’r Amgueddfa’n Uniongyrchol, neu ewch i’n gwefannau (gweled y dudalen adborth/cysylltiadau).
Staff Amgueddfa Genedlaethol (Dr Jana Horák and Tom Cotterell) fu’n gyfrifol am ymchwilio i gynnwys y wefan a’i ysgrifennu ar y cyd â John Mason (ymgynghorydd ar ei liwt ei hun). Neil Davies, Cywaith Cymru ddyluniodd y wefan.
Rydyn ni’n cydnabod cyfraniad Dr David Green wrth gynhyrchu nifer o ffotograffau newydd ar gyfer y project yma, ac rydyn ni’n estyn ein diolch i Steve Rust, Mick Cooper, Dr David Jenkins, Dr Rob Ixer, a Dr Wes Gibbons am roi eu caniatâd hael i ni ddefnyddio eu delweddau.