Beth yw mwyn?
" Ar y cyfan, elfen neu gemegyn cyfansawdd yw mwyn, sydd fel arfer yn grisialog ac sydd wedi cael ei ffurfio trwy brosesau daearegol.”- E.H. Nicke (1995).
Ond mae’r diffiniad yma’n golygu nad yw rhai mwynau, fel y rhai a geir mewn ceudodau mewn hen domenni slag ffwrneisi mwyndoddi neu hen rwbel adeiladu, yn cael eu hystyried fel mwynau mwyach. Caiff y gwahaniaeth ei seilio ar y syniad bod Dyn wedi chwarae gormod o ran yn y gwaith o’i chreu am fod y matrics neu’r wedi deunydd lletyol ei hunan o wneuthuriad dyn. Mae’r mwynau hyn yn dal i gael eu cynnwys ar gronfa ddata The Mineralogy of Wales yn yr un modd â rhai cyfansoddion organig.
Sut caiff enwau mwynau eu cymeradwyo’n swyddogol?
Y Comisiwn ar Fwynau Newydd ac Enwau Mwynau (CNMMN), sy’n rhan o’r Gymdeithas Fwynoleg Ryngwladol (IMA), yw’r awdurdod sy’n dyfarnu ar statws mwynau hen a newydd. Mae rheolau llym i benderfynu pa enwau a diffiniadau o fwynau sy’n ddilys a pha rai ddylai gael eu diystyru. Dyma’r categorïau welwch chi yn y deunydd:
A (Data cymeradwy) – ar gyfer mwynau hen a newydd a adolygwyd ac a gymeradwywyd gan y CNMMN;
D (Data wedi’i wrthbrofi) – gwrthodwyd y sail ar gyfer enw’r mwyn yma gan CNMMN, fel rheol am fod mwyn â’r nodweddion yma’n bodoli eisoes;
G (Mwyn ‘Hynafiad’) – enw oedd yn cael ei ddefnyddio cyn cyflwyno cymeradwyaeth CNMMN. Nid yw’n gymeradwy, ond mae’r gymuned mwynoleg yn ei ddefnyddio;
R Mwynau wedi eu hail-enwi/ailddiffinio neu eu hailddilysu gan y CNMMN;
Q (Statws amheus) – nid yw’r mwyn wedi cael ei wrthbrofi, ond mae gan yr awduron rhai amheuon am ei ddiffiniad.