Datganiadau i'r Wasg

Torri record nifer yr ymwelwyr ag amgueddfeydd cenedlaethol Cymru

Amgueddfa Cymru yn lansio Adolygiad Blynyddol 2018-19

Llynedd (1 Ebrill 2018 – 31 Mawrth 2019), daeth bron i 1.9 miliwn o bobl i ymweld â saith amgueddfa genedlaethol teulu Amgueddfa Cymru – 6.5% yn fwy na'r flwyddyn flaenorol a mwy nag unrhyw flwyddyn arall yn ei hanes 112 o flynyddoedd.

 

Rhannodd Amgueddfa Cymru – cartref casgliadau cenedlaethol celf, hanes a gwyddorau amgylcheddol Cymru – y stori hon a nifer o straeon eraill yn lansiad ei Hadolygiad Blynyddol yn adeilad eiconig y Pierhead, Bae Caerdydd heddiw (22 Hydref 2019).

 

Mae pob amgueddfa cenedlaethol wedi chwarae rôl bwysig ond yn ddi-os, rhoddwyd hwb i niferoedd yr ymwelwyr diolch i ailddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a gafodd ei dewis yn Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf – y wobr amgueddfaol uchaf ei bri yn y byd.

 

Trwy'r project hwn, gwireddwyd ein huchelgais i greu amgueddfa lle caiff hanes ei greu gyda phobl, nid ar eu rhan, ac sy'n dathlu diwylliant pawb sy'n galw Cymru'n gartref. Cydweithiodd miloedd o bobl gyda'r staff i ail-ddychmygu’r Amgueddfa a gweddnewid eu dulliau gwaith.

 

Meddai Roger Lewis, Llywydd Amgueddfa Cymru:

 

"Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn datblygu model newydd hynod ar gyfer amgueddfeydd.

 

“Ein hamcan yw galluogi cynifer o bobl â phosibl i fwynhau ac ymgysylltu â'n hamgueddfeydd ar draws Gymru. Cynhwysiant cymdeithasol a democratiaeth ddiwylliannol yw craidd ein gwaith.

 

"Mae projectau fel gweddnewid Sain Ffagan ac arddangosfa Kizuna: Japan | Cymru | Dylunio hefyd yn dangos fod amgueddfeydd cenedlaethol Cymru o bwys ar lwyfan ryngwladol.

 

"Rydym yn credu’n gryf bod Amgueddfa Cymru yn ganolog i fywyd yng Nghymru. Ein nod dros y 10 mlynedd a mwy nesaf yw datblygu'r sefydliad fwy fyth, gan ei droi yn gorff sy'n berthnasol i bobl Cymru ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd o weddill y DU a'r byd.”

 

Uchafbwyntiau allweddol:

  • Croesawyd 1,887,376 o ymwelwyr i'n saith amgueddfa genedlaethol 
  • Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae ein gwyddonwyr wedi darganfod dros 400 o rywogaethau byw a diflanedig mewn dros 65 o wledydd
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â thros 120 o elusennau a sefydliadau cymunedol
  • Cyfrannodd 1,135 o wirfoddolwyr dros 28,500 o oriau o'u hamser 
  • Ar hyn o bryd mae gennym 70 o brojectau ymchwil arloesol ar y gweill ym meysydd y gwyddorau naturiol, celf, hanes a'r gwyddorau cymdeithasol
  • Cynhaliodd Amgueddfa Cymru 57 arddangosfa
  • Rydym yn cyfrannu £83 miliwn o werth ychwanegol gros at economi Cymru bob blwyddyn
  • Ni yw darparwr addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth mwyaf Cymru, gan gyrraedd 208,388 o blant ysgol a myfyrwyr
  • Cyrhaeddwyd dros 146,000 o ddilynwyr ar Facebook, Twitter a YouTube
  • Defnyddir y 5 miliwn o wrthrychau ac atgofion yng nghasgliadau celf, hanes a gwyddoniaeth cenedlaethol Cymru i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

 

Enillodd un o amgueddfeydd y teulu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.


Fel elusen gofrestredig, rydyn ni'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.