Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa Dippy'r Diplodocus, deinosor enwocaf y DU, yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae deinosor Amgueddfa Hanes Natur, Llundain, wedi cyrraedd Cymru yn rhan o daith o'r DU

 

Wedi misoedd o aros, gall ymwelwyr ddod i weld Dippy yn y cnawd (fel petai!) yng Nghymru wrth i arddangosfa Dippy ar Daith agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae mynediad am ddim, a bydd Dippy i'w weld ym mhrif neuadd yr Amgueddfa rhwng 19 Hydref 2019 a 26 Ionawr 2020.

 

Mae Dippy ar Daith: Antur Hanes Natur yn digwydd diolch i bartneriaeth rhwng yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain â Sefydliad Garfield Weston, gyda chymorth Dell EMC a Williams & Hill. Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y DU mae un o wrthrychau mwyaf eiconig yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain ar daith am dair blynedd. Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi derbyn cymorth hael gan Admiral, Great Western Railway a siop Caerdydd John Lewis and Partners er mwyn dod â Dippy i Gymru. Diolch i gefnogaeth ein holl bartneriaid, caiff teuluoedd ddod at ei gilydd i brofi'r arddangosfa unwaith mewn oes hon.

 

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru: "Mae Dippy wedi cyrraedd ac mae'n hyfryd cael croesawu'r deinosor eiconig yma i Gymru. Rydyn ni'n gwybod fod ein hymwelwyr yn edrych ymlaen i gwrdd ag e, a dwi'n gwybod y caiff groeso cynnes, Cymreig yma.

 

Ni yw'r unig leoliad yng Nghymru fydd yn rhoi cartref i'r deinosor eiconig ac rydyn ni'n gobeithio y bydd gweld Dippy yn ysbrydoli ein hymwelwyr i fynd allan i fwynhau, darganfod a diogelu'r byd natur sydd o'u cwmpas.

 

Mae Dippy wedi dechrau sgwrs hanfodol am bwysigrwydd gofalu am ein cynefinoedd ac mae'n hyfryd cael creu'r cysylltiadau â'n casgliadau gwyddonol ni yma yn yr Amgueddfa."

 

Bydd gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd raglen gyffrous o ddigwyddiadau i gyd-fynd â Dippy ar Daith, gan gynnwys sgyrsiau, gweithdai, cyfleoedd i aros dros nos yn yr Amgueddfa a disgos distaw. Bydd cyfle hefyd i ymestyn ac ymlacio gyda Dippy mewn dosbarth yoga arbennig.

 

Ochr yn ochr ag arddangosfa Dippy, mae fforwm ieuenctid yr Amgueddfa wedi meddiannu un o orielau'r Amgueddfa. Mae'r bobl ifanc wedi bod yn gweithio'n galed i greu cerfluniau o ddeinosoriaid a chreaduriaid diflanedig eraill o ddillad ail law fel ymateb i effaith ffasiwn ffwrdd â hi a gwastraff ar ein hamgylchedd.

Meddai cyfarwyddwr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain, Syr Michael Dixon: "Rydyn ni mor gyffrous am y croeso i Dippy yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

Ac yntau bellach wedi cyrraedd Cymru, mae'n siŵr mai ef yw'r diplodocus cyntaf i ymweld â phedair cornel y Deyrnas Unedig. Hyd yn hyn, mae niferoedd ymwelwyr pob lleoliad wedi torri recordiau ac rydyn ni'n siŵr y bydd yn boblogaidd yma hefyd.

 

Gyda chymorth fforwm ieuenctid Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, rydyn ni'n edrych ymlaen at weld Dippy yn parhau i ysbrydoli cariad at fyd natur a chreu eiriolwyr newydd ar gyfer y blaned."

 

Meddai'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: "Rwy'n falch iawn fod yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain wedi gweithio gydag Amgueddfa Cymru i ddod â Dippy i Gaerdydd. Mae'n gyfle gwych i weld deinosor enwocaf y DU ac mae rhaglen wych o raglenni ar gael i gefnogi'r ymweliad hefyd. Croeso i Gymru Dippy!”

 

Yn rhan o'i daith ar draws y DU, mae Dippy yn mentro allan o Lundain am y tro cyntaf ers 1905. Ymweliad Dippy ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn y brifddinas fydd yr unig gyfle i'w weld yng Nghymru – ac mae'n benderfynol o ysbrydoli pum miliwn o anturiaethau hanes natur, gan annog pawb i ymchwilio'r casgliadau hanes natur a bioamrywiaeth sydd ar garreg eu drws yma yng Nghaerdydd.

 

Yn ogystal â rhyfeddu at Dippy, caiff ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fwynhau ein horielau hanes natur, mynd ar daith o ddechrau amser i'r presennol yn orielau Esblygiad Cymru, a dod wyneb yn wyneb â deinosoriaid a chreaduriaid o bob math  Dracoraptor hanigani – y deinosor Cymreig gafodd ei ddarganfod gan y brodyr Nick a Rob Hanigan ar draeth Larnog, 8 milltir o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

Cast yw Dippy, wedi'i greu o sgerbwd bron yn gyflawn gafodd ei ddarganfod yn Wyoming, America ym 1898. Mae'n cynnwys 292 asgwrn, ac yn 21.3 medr o hyd, 4.3 medr o led, a 4.25 medr o daldra.

 

Meddai Philippa Charles, Cyfarwyddwr Sefydliad Garfield Weston: "Rydyn ni wrth ein bodd fod Dippy nawr yn barod i gwrdd ag ymwelwyr Cymru. Mae nod Dippy o ysbrydoli pobl i fwynhau'r byd natur ar garreg eu drws a meddwl am eu lle yn y byd yn fwy pwysig nag erioed, ac mae'n siŵr o gael croeso cynnes iawn yn Amgueddfa Cymru.

 

Admiral yw Noddwr Cymru ar gyfer Dippy ar Daith ac mae'r cwmni wedi cynorthwyo Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddod â Dippy i'r brifddinas i bawb gael ei fwynhau. Meddai Natalie Grimwards, Rheolwr Cyfathrebu Admiral: “Rydyn ni wrth ein bodd o gael helpu i groesawu Dippy i Gaerdydd. O sgyrsiau amser cinio yn y swyddfa i docynnau a chynigion arbennig ar gyfer y digwyddiadau cysylltiedig, rydyn ni'n falch iawn fod ein nawdd yn galluogi i'n staff a'u teuluoedd gael ymuno yn yr hwyl." 

Am ragor o wybodaeth ewch i amgueddfa.cymru/dippy