Datganiadau i'r Wasg

Dathlu Bywydau Pobl Dduon yng nghylchgrawn celf digidol newydd Amgueddfa Cymru

Heddiw (13 Hydref 2020), mae Amgueddfa Cymru yn lansio ei chylchgrawn celf digidol newydd, Cynfas (amgueddfa.cymru/Cynfas), i hyrwyddo iechyd a llesiant pobl Cymru drwy’r celfyddydau a diwylliant. Mae’r rhifyn cyntaf hwn yn canolbwyntio ar Fis Hanes Pobl Dduon ac mae wedi’i olygu gan Gynhyrchydd Amgueddfa Cymru, Umulkhayr Mohamed.

Ysbrydolwyd y gwaith gan ethos ac ystyr llythrennol Celf Ar Y Cyd gan Rithika Pandey fel rhan o alwad am artist, i greu brand ar gyfer Celf ar y Cyd.

Dyma fenter ddiweddaraf y project Celf ar y Cyd i gael ei lansio ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Nod Cynfas yw ymgysylltu lleisiau amrywiol mewn sgwrs ynghylch y casgliad celf cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru, ac annog trafodaeth am ddiwylliannau gweledol yng Nghymru ar ffurf cylchgrawn misol, i’w gynnal ar-lein. Bydd y cylchgrawn hwn yn rhannu erthyglau a phrojectau celf ar-lein ar dudalen we Cynfas, ac mae cyfranwyr yn cynnwys awduron o bob cwr o Gymru.

Mae rhifyn mis Hydref yn dod â straeon newydd am gasgliad celf Amgueddfa Cymru ynghyd, gan gynnwys y bardd ac ymgyrchydd Cindy Liz-Ikie yn archwilio darluniad yr affro gan y cerflunydd o Brydain, Henry Ward.

Mae Sharon Kostini a Maoa Eliam yn edrych yn hanesyddol ar werth a defnydd aur mewn ffasiwn Affricanaidd drwy’r oesau, ac mae Korkor Kanor wedi ysgrifennu darn i godi calon ar The Punchbowl and Ladle gan Ndidi Ekubia, sy’n gweld gobaith yn y ffordd mae’r eitemau wedi’u morthwylio i greu rhywbeth prydferth - alegori am fywyd, efallai.

Gall ymwelwyr i blatfform Cynfas gael taith rithwir o osodiad (heb eu)Gweld (heb eu)Clywed yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Umulkhayr Mohamed, sydd hefyd yn olygydd Cynfas, guradodd yr arddangosfa a agorodd ym mis Mawrth, ychydig ddiwrnodau cyn dechrau’r cyfnod clo. Mae (heb eu)Gweld (heb eu)Clywed yn ymyriad ar gerfluniau sydd i’w gweld yn yr Amgueddfa, gan ddod â phenddelwau menywod a ffigyrau duon i’r blaen.

Meddai Umulkhayr Mohamed, un o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, sef rhwydwaith i bobl ifanc greadigol ac ymgyrchwyr sy’n ymddiddori ym maes treftadaeth:

“Bydd Cynfas yn ymestyn tu hwnt i gynulleidfaoedd traddodiadol y celfyddydau drwy ddechrau trafodaethau sy’n ymwneud â gweithiau celf y casgliadau cenedlaethol, gyda chyfranwyr yn rhannu eu hymatebion i’r gweithiau eu hunain, ond hefyd i’r sawl thema awgrymedig maent yn eu cysylltu â’r gweithiau hyn.

“Mae thema’r rhifyn hwn yn estyn y drafodaeth ynghylch Bywydau Pobl Dduon a’u pwysigrwydd, i gynnwys sut gall celf archwilio ac egluro hyn. Mae wedi’i greu gan grŵp o awduron sydd wedi bod yn ddigon hael i ymgorffori eu profiadau byw yn eu cyfraniadau, ond sydd wedi mynd tu hwnt i hynny gan gysylltu â’r gweithiau celf yn ddwfn er mwyn i bawb allu gwneud hynny.”

Meddai Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:

“Dyma gyfle gwych i gydweithio â Chyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru i gefnogi llesiant cymunedau dros Gymru.

“Mae casgliad celf Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb yng Nghymru. Bydd y project hwn yn ymgysylltu amrywiaeth o leisiau mewn trafodaeth i Gymru gyfan am y casgliad cenedlaethol, a bydd yn cryfhau teimlad o gydberchnogaeth ac ymestyn i gymunedau newydd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae pandemig y Coronafeirws wedi newid sut rydym yn rhyngweithio â’r byd ehangach, a’n gobaith yw ysbrydoli pobl o bob oed drwy’r ffordd ddigidol newydd hon o edrych ar ein casgliadau.”

Meddai Sian Tomos, Cyfarwyddwr (Datblygu’r Celfyddydau) Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae’r celfyddydau ac iechyd wedi bod yn flaenoriaeth i Gyngor Celfyddydau Cymru ers amser maith, ac mae’r 6 mis diwethaf dan gyfyngiadau Covid-19 wedi amlygu pwysigrwydd y celfyddydau i iechyd a lles yn fwy nag erioed. Bydd menter ddiweddaraf Celf ar y Cyd yn gyfraniad arall i’r rhan bwysig hon o’n bywyd cenedlaethol yng Nghymru.”

Cyhoeddir ail rifyn Cynfas ym mis Tachwedd, a bydd yn canolbwyntio ar y Celfydyddau a Iechyd. Mae themâu eraill sydd i ddod yn cynnwys Diwylliant gweledol Cymru, Celf a’r Amgylchedd ac Arian, Pŵer a Chelf ac rydym yn annog unrhyw un sydd awydd cyfrannu at y rhifynnau hyn i gadw llygad ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Amgueddfa Cymru.

Meddai’r Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Mae Cynfas yn broject cyffrous iawn, sydd hefyd yn ddathliad o’r hyn y gallwn ei gyflawni yn ystod y cyfnod anodd hwn i alluogi a rhannu’r hyn sydd gan y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru i’w gynnig. Rwy’n falch iawn y bydd y rhifyn cyntaf hwn yn helpu i rannu profiadau a threftadaeth ein cymdeithasau amlddiwylliannol, a dathlu’r cyfraniadau a wnaed gan gymunedau Duon yng Nghymru.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.amgueddfa.cymru

DIWEDD