Datganiadau i'r Wasg

Croesawu ymwelwyr Cymru yn ôl i'w treftadaeth a'u mannau agored

O ddydd Llun 9 Tachwedd, bydd trigolion Cymru yn cael eu croesawu yn ôl i atyniadau treftadaeth, gerddi, amgueddfeydd a mannau awyr agored mwyaf poblogaidd Cymru wrth i safleoedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Cadw ac Amgueddfa Cymru agor eu drysau ar ôl y cyfnod atal byr.

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog yr wythnos hon fod cyfyngiadau teithio yng Nghymru wedi'u codi ac y gall busnesau twristiaeth ailagor, gall ymwelwyr o Gymru unwaith eto fwynhau mynediad i amgueddfeydd, safleoedd treftadaeth a mannau awyr agored gorau Cymru. 

 

Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas:

"Mae pobl Cymru wedi gwneud cyfraniad enfawr at atal y coronafeirws rhag lledaenu drwy aros gartref yn ystod y cyfnod atal byr. Rydw i wrth fy modd ein bod ni nawr yn gallu ailagor lleoedd yng Nghymru i bobl Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn a bod Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Cadw ac Amgueddfa Cymru, yn agor y lleoedd eithriadol o arbennig sydd yn eu gofal er budd a lles eu hymwelwyr a'u cymunedau lleol. 

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw mynediad i fannau gwyrdd, i fyd natur a lle i fyfyrio'n dawel mewn mannau heddychlon, ac mae atyniadau treftadaeth, amgueddfeydd a mannau awyr agored Cymru ar gyfer hybu iechyd a lles y genedl.  Os ydych yn byw yng Nghymru gallwch nawr ymweld â gerddi, cestyll, abatai, amgueddfeydd ac orielau o ddydd Llun 9 Tachwedd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y cam hwn o ailagor eu lleoedd gan sefydliadau twristiaeth mwy Cymru yn rhoi hwb i deuluoedd eu mwynhau yn ogystal â chefnogi eu cymunedau lleol a'r sector ehangach.

Bydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Cadw ac Amgueddfa Cymru yn parhau i ddilyn deddfwriaeth y llywodraeth ar agor yn ddiogel a chroesawu ymwelwyr yn ôl, wrth gadw Cymru’n ddiogel, a gofynnwn i bobl fwynhau’r lleoedd hyn yn gall ac yn unol â’r rheolau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.”

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn ailagor eu safleoedd o ddydd Llun 9 Tachwedd, ar gyfer ymwelwyr sy'n byw yng Nghymru. Yng Ngardd Bodnant yng Nghonwy, mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys lliw ysblennydd yr hydref a theithiau cerdded glan yr afon i'r Glyn a'r Pen Pellaf, neu olygfeydd pellgyrhaeddol ar draws Dyffryn Conwy o Goed Ffwrnais. Gall ymwelwyr â Gerddi Dyffryn yng Nghaerdydd fwynhau lliwiau hardd yr hydref, o ystafelloedd gardd clyd i olygfeydd agored eang ar draws y lawntiau helaeth. Mae amseroedd agor yn amrywio gan fod rhai mannau, gan gynnwys cestyll a phlastai, wedi symud i'w hamserlenni agor dros y gaeaf ac nid ydynt ar agor bob dydd.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys sut i gynllunio ac archebu eich ymweliad i'w gweld ar y wefan: https://www.nationaltrust.org.uk/days-out/wales

 

Bydd Amgueddfa Cymru yn ailagor chwech o'i hamgueddfeydd yn ystod wythnos 9 Tachwedd, gydag Amgueddfa Lofaol Cymru, y Big Pit yn ailagor ar 17 Tachwedd oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. 

Bydd angen i bob ymwelydd archebu tocyn am ddim ymlaen llaw ar gyfer eu hymweliad drwy ymweld ag www.amgueddfa.cymru. Dim ond pobl sy’n byw yng Nghymru all archebu tocyn. Mae grŵpiau wedi’u cyfyngu i bedwar person dros 10 oed, oni bai eu bod yn byw ar yr un aelwyd.

Bydd nifer o'r adeiladau a'r orielau hanesyddol yn ailagor yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan am y tro cyntaf ers mis Mawrth a bydd arddangosfa Bywyd Richard Burton yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.

 

Bydd Cadw yn ailagor 15 o'i gestyll, abatai a'i balasau ym mis Tachwedd ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr ac aelodau o Gymru yn ôl i'n safleoedd eiconig, gan gynnwys ein safleoedd treftadaeth y byd yn y gogledd. Fel cyn y cyfnod atal byr, bydd angen prynu tocynnau ar-lein ymlaen llaw. Cyfyngir grwpiau i bedwar person dros 10 oed, oni bai eu bod yn byw yn yr un tŷ (efallai y gofynnir i ymwelwyr ddangos tystiolaeth o le maen nhw’n byw). Bydd tocynnau ar gael i'w prynu ar https://www.aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru/digwyddiadau/

 

Bydd Castell Caernarfon yn ailagor i ymwelwyr o Gymru ddydd Llun 23 Tachwedd, gyda mynediad nawr drwy Dŵr yr Eryr eiconig y castell ger yr harbwr, oherwydd gwaith cadwraeth ar fynedfa Porth y Brenin. Bydd Castell Coch yn ailagor ddydd Gwener a dydd Sadwrn ac oherwydd gwaith cadwraeth parhaus, mae mynediad i Gastell Caerffili wedi'i gyfyngu i'r ward allanol ond bydd yn rhad ac am ddim i bobl yng Nghymru ymweld ag ef.

 

Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn datgan mai dim ond i ymwelwyr sy'n byw yng Nghymru y gall atyniadau yng Nghymru agor. Mae cyfyngiadau clo gwahanol yn berthnasol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, gall pobl sy'n byw yng Nghymru deithio yng Nghymru, heb gyfyngiadau ar bellter.

DIWEDD

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Deborah Wood o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Deborah.wood@nationaltrust.org.uk