Datganiadau i'r Wasg

Canfod ôl troed deinosor newydd ar draeth yn ne Cymru

Bydd ôl troed deinosor a ganfuwyd ar draeth ger y Barri yn helpu gwyddonwyr i ddysgu mwy am sut oedd deinosoriaid yn cerdded.

Cafodd yr ôl troed ei ganfod gan Lily Wilder, sy'n bedair oed, wrth gerdded gyda ei thad yn eu milltir sgwâr ym mis Ionawr.

Lily oedd y cyntaf i weld yr ôl troed newydd ar garreg rydd ger y môr ym Mae Bendricks - traeth sy’n enwog am yr olion traed deinosor a grëwyd 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn mwd sych.

Disgrifiodd Cindy Howells, Curadur Palaeontoleg Amgueddfa Cymru, fel y sbesimen gorau a ganfuwyd erioed ar y traeth hwn. Grallator yw’r enw ar y math yma o ôl troed, er ei bod yn amhosibl dweud pa ddeinosor adawodd yr ôl 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae'r ôl troed newydd ychydig dros 10cm o hyd ac mae'n debyg iddo gael ei adael gan ddeinosor a tua 75cm o uchder a 2.5m o hyd. Anifail main fyddai hwn, yn cerdded ar ddwy droed ac yn hela anifeiliaid bach a phryfed.

Nid yw esgyrn ffosil y deinosor 220 miliwn oed hwn wedi’u canfod yma, ond gwyddom fod olion traed tebyg yn UDA wedi’u gadael gan y deinosor Coelophysis, sydd ddim i’w weld yn y DU.

Mwy na thebyg taw nid deinosoriaid adawodd mwyafrif yr olion traed ym Mae Bendricks, ond ymlusgiaid o deulu’r crocodeil oedd hefyd yn byw yn yr ardal.

Mae'r traeth yn eiddo preifat ac wedi'i ddiogelu'n gyfreithiol fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Mae'r tirfeddiannwr, Sefydliad Cadwraeth Daearegol Prydain yn elusen sy'n gweithio i warchod treftadaeth naturiol drwy brynu safleoedd, addysgu ac ymgysylltu â'r gymuned.

Roedd yn rhaid gofyn am ganiatâd arbennig gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) er mwyn ei symud yn gyfreithiol. Symudwyd y ffosil yr wythnos hon a bydd yn cael ei gludo i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lle bydd yn cael ei ddiogelu er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau, ac i wyddonwyr ei astudio.

Ymddangosodd deinosoriaid cyntaf tua 230 miliwn o flynyddoedd yn ôl, felly mae'r ôl troed hwn yn bwynt cynnar pwysig iawn yn eu hesblygiad, pan oedd y gwahanol grwpiau o ddeinosoriaid yn arallgyfeirio am y tro cyntaf. Bydd ei gyflwr arbennig yn helpu gwyddonwyr i ddarganfod mwy am draed deinosoriaid gan fod padiau unigol a hyd yn oed marciau crafangau i’w gweld yn glir.

Dywedodd Cindy Howells, Curadur Palaeontoleg Amgueddfa Cymru taw “Yr ôl troed deinosor 220 miliwn mlwydd oed hwn yw un o'r enghreifftiau gorau o’i fath yn y DU a bydd yn helpu palaeontolegwyr i greu darlun gwell o sut y byddai deinosoriaid yn cerdded. I Lily a’r teulu a’u llygaid craff mae’r diolch pennaf bod Amgueddfa Cymru yn gallu ei gaffael.

"Yn ystod pandemig Covid mae gwyddonwyr Amgueddfa Cymru wedi bod yn tynnu sylw at bwysigrwydd natur ar eich stepen drws, a dyna enghraifft berffaith o hyn. Does gan bawb ddim olion traed deinosor ar ein stepen drws ond mae cyfoeth o natur yn eich milltir sgwâr os gadwch chi lygad barcud."

Dywedodd Sally Wilder, mam Lily, “Lily a Richard (ei thad) a ddarganfuodd yr ôl troed. Gwelodd Lily  siap y droed, a dywedodd “Dadi edrych!” Pan ddaeth Richard adref a dangos y ffotograff i mi, roeddwn i'n meddwl ei fod yn edrych yn anhygoel. Roedd Richard o'r farn ei bod yn rhy dda i fod yn wir. Cefais fy rhoi mewn cysylltiad gydaag arbenigwyr a aeth pethau o fana.

“Roeddem wrth ein boddau o ddarganfod ei fod yn ôl troed deinosor ac rwy’n hapus y bydd yn cael ei gludo i’r Amgueddfa Genedlaethol lle gall pobl ei fwynhau a’i astudio am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Ben Evans o Sefydliad Cadwraeth Daearegol Prydain, "Mae cydweithio gyda Amgueddfa Cymru wedi caniatáu i'r sbesimen anhygoel hwn gael ei adfer a'i gadw'n ddiogel gyda sbesimenau eraill o’r safle. Mae’r traeth hwn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac er ein bod yn annog pobl i ymweld a’r safle a'i ddefnyddio'n gyfrifol, ni chaniateir casglu creigiau, mwynau a ffosiliau o'r safle heb ganiatâd. Cysylltwch â BIGC, Amgueddfa Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych chi’n canfod rhywbeth newydd."

 

Dywedodd Nadia De Longhi, Rheolwr Gweithrediadau De Canolog Cyfoaeth Naturiol Cymru:

“Mae Cymru yn gartref i dirwedd ddaearegol gyfoethog, gymhleth ac amrywiol o bwysigrwydd rhyngwladol.

“Mae'r traeth penodol hwn lle darganfuwyd y ffosil yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) ac mae’n cynnwys nodweddion daearegol sy'n gofyn i ni reoli y safle yn ofalus er mwyn ei amddiffyn a'i ddiogelu.

“Mae ôl troed y deinosor yn ddarganfyddiad ysblennydd a buom yn rhoi cyngor i Amgueddfa Cymru i sicrhau ei fod yn cael ei symud yn ddiogel er mwyn ei gadw fel adnodd gwyddonol ac addysgol.”

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd i gyd yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'i gilydd, mae'n gartref i gasgliadau celf, hanes a gwyddoniaeth y genedl, a fydd yn parhau i dyfu fel y gall cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol eu defnyddio a'u mwynhau.

Enillodd un o'i hamgueddfeydd, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan sy'n archwilio hanes a diwylliant Cymru, Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru yn ddiolchgar am bob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen digwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr People’s Postcode Lottery. 

 

Diwedd