Datganiadau i'r Wasg

Datganiad gan Amgueddfa Cymru yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol

Heddiw (3 Chwefror 2021), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn gwerth £3.95m i Amgueddfa Cymru i ddiogelu swyddi a chyflawni blaenoriaethau strategol newydd, gan roi sefydlogrwydd i sefydliad diwylliannol cenedlaethol blaenllaw Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn.  

Mae mwy na degawd o galedi a heriau COVID-19 wedi arwain at sefyllfa ariannol ansicr i Amgueddfa Cymru. Pwysleisiwyd hyn gennym ni a'n Hundebau Llafur cydnabyddedig mewn trafodaethau diweddar gyda Llywodraeth Cymru.  

Bydd y £3.95m yn helpu i ddiogelu swyddi a gwasanaethau, gan sicrhau y gallwn barhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau a chymunedau ledled Cymru. Mae hefyd yn sicrhau y gallwn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r gwaith o wella ac ailadeiladu'r genedl yn dilyn pandemig COVID-19. 

Yr ydym yn creu model newydd ar gyfer amgueddfeydd. Bydd tair elfen gref i Amgueddfa Cymru yn y dyfodol: y saith amgueddfa a Chanolfan Gasgliadau cenedlaethol sy'n rhan o deulu Amgueddfa Cymru; ein gwaith gyda chymunedau ledled Cymru; a'r adnoddau digidol sy'n gwasanaethu'r genedl. Bydd y tri yn hanfodol ar gyfer llwyddiant amgueddfa genedlaethol gref i Gymru. 

Diwedd 

Am fanylion pellach, cysylltwch â: 

Catrin Taylor 

Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu   

Amgueddfa Cymru 

07920 027067 / catrin.taylor@amgueddfacymru.ac.uk