Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn ymuno â Chynghrair Fyd-eang “#UnitedForBiodiversity”

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymuno â dwsinau o sefydliadu eraill ledled y byd mewn ymgyrch fyd-eang i godi ymwybyddiaeth o’r angen i warchod yr amgylchfyd naturiol, a hynny cyn digwyddiad allweddol Cynhadledd y Partion (CyP) 15 y Confensiwn ar Amrwyiaeth Fiolegol yn 2021.

Lansiwyd Cynghrair Fyd-eang ‘#UnitedForBiodiversity’ ar Ddiwrnod Natur y Byd ym Mawrth 2020 gan Gomisiynydd yr Amgylchedd yr UE, Virginijus Sinkevicius. Mae’r Gynghrair yn galw ar bob gardd fotaneg, sw, canolfan ymchwil, parc cenedlaethol, ac amgueddfa wyddoniaeth a hanes natur i godi llais dros fyd natur.

Gyda gwyddoniaeth yn ein rhybuddio bod miliwn o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu o fewn degawdau o ganlyniad i effaith dyn, mae’n hanfodol i’r CyP 15 lunio cytundeb uchelgeisiol ar fioamrywiaeth, tebyg i Gytundeb Hinsawdd Paris 2015. Mae nifer o wledydd, gan gynnwys y DU ac aelodau’r UE, wedi ymrwymo i amddiffyn y Cytundeb ond rhaid gwneud mwy er mwyn cael effaith byd-eang.

Wrth lofnodi addewid y Gynghrair, braint Amgueddfa Cymru yw bod yr ail aelod swyddogol o’r DU, yn dilyn cyhoeddiad Amgueddfa Bryste ym mis Tachwedd.

Ymhlith aelodau a chefnogwyr eraill y Gynghrair mae’r Consortiwm Cyfleuterau Tacsonomig Ewropeaidd (CETAF) sy’n cynrychioli dros 66 o sefydliadau sy’n gofalu am dros hanner o gasgliadau biolegol y byd. Mae Amgueddfa Cymru yn aelod o CETAF drwy gonsortiwm y DU o amgueddfeydd hanes natur sy’n hwyluso cydweithio rhwng amgueddfeydd er mwyn siarad â llais cryfach.

Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru argyfwng hinsawdd ac ecoleg byd-eang ym mis Medi 2019 ac mae’n weithgar yn darparu cyfle i bobl ymwneud â byd natur a dysgu amdano drwy gyfrwng ymgyrchoedd addysg, allestyn a chyfryngau cymdeithasol.

Mae amgueddfa genedlaethol Cymru yn rhoi llwyfan i drafod argyfyngau hinsoddol ac ecolegol, gan gefnogi ymdrechion i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy gofnodi a chaglu eitemau o brotestiadau Extinction Rebellion a streiciau plant ysgol yng Nghymru.

Mae Amgueddfa Cymru wedi defnyddio ei chasgliadu i gynnal arddangosfeydd arbennig sy’n dwyn sylw at faterion amgylcheddol. Yn eu plith roedd arddangosfa ‘No Môr Plastics’ am lygredd yn ein moroedd a ‘Dippy About Nature’ yn canolbwyntio ar effaith andwyol ffasiwn cyflym. Yn ddiweddar mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Red Brigade i ddogfennu ac adnabod rhywogaethau, a dangos newidiadau amgylcheddol sy’n amlygu problemau rhywogaethau sydd mewn perygl.

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo ers amser i gefnogi bioamrywiaeth, ac yn gofalu am dros 3 miliwn o sbesimenau hanes natur. Caiff y rhain eu defnyddio fel sail i ymchwil tacsonomegwyr arbenigol, ac ymchwilwyr eraill drwy gyfrwng ei rhaglen fenthyg. Ers bron i 40 mlynedd mae’r sefydliad wedi gwneud gwaith mapio bioamrywiaeth, ar dir Cymru ac ar wely môr benthig yr arfordir, er mwyn creu meincnod i fesur newidiadau.

Mae Amgueddfa Cymru yn rhannu ei harbenigedd y tu hwnt i Gymru drwy gydweithio ar arolygon â gwyddonwyr yng Ngholombia, Ynysoedd Malfinas, Kenya, Mauritius, a Mozambique i gefnogi cadwraeth eu bioamrywiaeth gynhenid.

Yn olaf, Amgueddfa Cymru sy’n gofalu am gasgliad mwyaf y byd o blanhigion ac anifeiliaid Cymru. Gyda’i arbenigedd addysg ac allestyn amlddisgyblaethol, mae’r Amgueddfa mewn sefyllfa unigryw i adrodd yr hanes i gynulleidfa gyfoes.

Wrth i’r Gynghrair Fyd-eang anelu at gasglu ynghyd 500 o sefydliadau cyn CyP 15, rydym yn gwahodd ein partneriaid yn y DU a thu hwnt i ymuno â’r ymgyrch ar

https://ec.europa.eu/environment/nature/biodiversity/coalition/index_en.htm

#UnitedforBiodiversity #CyP15