Datganiadau i'r Wasg
Taflu goleuni ar Y Fagddu
Dyddiad:
2021-03-05Amgueddfa Cymru i gyflwyno gŵyl o ddigwyddiadau ar-lein i ddathlu celf gan artistiaid Du o Gymru
Heddiw (5 Mawrth) mae Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi cyfres gyffrous o ddigwyddiadau ar-lein, Hwyrnos: Y FAGDDU mewn cydweithrediad ag Artes Mundi. Bydd y digwyddiadau yn cynnwys cymysgedd o gynnwys byw a chynnwys wedi ei recordio ac yn cael eu cynnal bob nos Iau drwy gydol mis Mai.
Bwriad Hwyrnos: Y FAGDDU yw dathlu cyfraniad artistig artistiaid Du a hunaniaeth Ddu, gyda phedwar gwaith celf newydd yn cael eu comisiynu yn arbennig ar gyfer y digwyddiadau hyn. Bydd y comisiynau amlddisgyblaethol hyn yn mynd i’r afael ag effaith Ymerodraeth Prydain a’i diwylliant ar bobl Ddu a’u hanes wrth archwilio ffyrdd newydd o freuddwydio ar y cyd.
Bob nos Iau byddwn yn canolbwyntio ar waith newydd eofn gan artist penodol. Mae’r rhain yn cynnwys June Campbell-Davies (Mai 6 2021), Gabin Kongolo (Mai 13), Omikemi (Mai 20) ac Yvonne Connikie (Mai 27).
- Bydd June Campbell-Davies, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn perfformio Sometimes we’re Invisible ychwiliad i drefedigaethedd drwy ddawns a symudiad i ddatgelu’r grym a’r pwysau a ddaw yn sgil ein cysylltiadau â’n hynafiaid.
- Bydd Gabin Kongolo, o Gaerdydd, yn cyflwyno NDAKO (Home), cerdd ffilmig yn seiliedig ar dystiolaethau gan deulu Gabin sy’n datgelu natur farddonol y profiad o ddod i Gymru o’r Congo fel ffoaduriaid.
- Mae gwaith yr artist o Lundain, Omikemi, Dreaming Bodies, yn cael ei ddisgrifio fel gwaith celf sain sy’n edrych ar yr hyn sy’n pontio hunaniaethau LHDTQRhA+, Anabl a Du.
- Bydd Yvonne Connikie yn cyflwyno A Time for New Dreams, ffilm yn cynnwys deunydd newydd a deunydd archif i fyfyrio ar ddyheadau cenhedlaeth Windrush yng Nghymru a sut mae Sgandal Windrush wedi arwain at droi’r breuddwydion hyn yn hunllefau byw.
Mae Umulkhayr Mohamed, Curadur arweiniol Hwyrnod: Y FAGDDU ac yn dweud:
“Rydym yn hynod gyffrous i fod yn cyflwyno’r gyfres hon o ddigwyddiadau celf i gynulleidfa ddigidol. Mae’n bwysig ein bod yn dathlu cyfraniad artistiaid Du ac yn cynnal sgwrs am yr effeithiau hirdymor y mae pobl Ddu yn eu teimlo yn sgil bwgan deublyg trefedigaethedd ac Ymerodraeth Prydain. Ar y cyd â’r gwaith celf hyfryd sydd wedi cael ei gomisiynu, bydd Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno perfformiadau dawns a cherddoriaeth newydd, dangosiadau ffilm, setiau DJ, teithiau hanes Du Arbennig drwy gasgliadau Amgueddfa Cymru, a deunydd ychwanegol o arddangosfa Artes Mundi 9.”
Mae Hwyrnos: Y FAGDDU wedi ei guradu ar gyfer cynulleidfa ar-lein i fwynhau o gartref. Mae’r digwyddiad yn cydweddu ag arddangosfa Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a fydd yn lansio fel arddangosfa ddigidol ar 15 Mawrth 2021. Bydd arddangosfa Artes Mundi yn agor i’r cyhoedd pan fydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn galluogi i’r Amgueddfa ailagor yn ddiogel.
Dyma’r digwyddiad diweddaraf i gael ei gynnal o dan frand Hwyrnos Amgueddfa Cymru ar gyfer pobl ifanc. Mae digwyddiadau Hwyrnos llwyddiannus eraill yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnwys Hwyrnos: Y Gofod yn 2019, i ddathlu 50 mlynedd ers y glaniad ar y lleuad, a Hwyrnos: Deino yn 2020 i ddathlu Dippy ar Daith yn ystod ymddangosiad diplodocws enwog Amgueddfa Hanes Natur Llundain yn yr Amgueddfa.
Caiff tocynnau ar gyfer Hwyrnos: Y FAGDDU eu rhyddhau ar Eventbrite am 10am ar fore Dydd Llun, 8 Mawrth 2021 ac mae prisiau’n amrywio o £6 am docyn i un digwyddiad a £15 am docyn bwndel i gael mynediad ar-lein i bob digwyddiad. Bydd tocynnau bwndel ar gael i'w prynu ar gyfradd is o 15% ar ôl pob digwyddiad.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://amgueddfa.cymru/digwyddiadau/digidol/11289/Hwyrnos-Y-FAGDDU/